Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwi dlodion, chwi gystuddiol, digysur, fyth na thewch,
Ond byddwch bellach lawen, drachefn llawenhewch;
Dewisodd yntau dlodi a gwawd ac angau du,
Fel byddech yn freninoedd yn yr wybrenau fry.

Chwi henaint, sy'n ymgrymu dan bwys blynyddau hir,
Yn rhedeg gyda'r angau tua'r anghofus dir, —
Crist unig pwyswch arno, Craig eich heneidiau trist,
A'r gair diwedda' ddwedoch, boed mawl i Iesu Grist.

A'r cynta' ddwedoch chwithau, fabanod egwan prudd,
Sef clod i enw'r Iesu, a dechreu gyda'r dydd;
Parhewch hyd fyth i'w foli, dewiswch ef yn rhan,
Er mwyn i chwi gynyddu, daeth ef yn faban gwan.

MARWNAD GYNTAF WILLIAMS, PANTYCELYN

[Mae yn ymddangos mai dyma y farwnad gyntaf a wnaeth yr hen fardd, ac a gyhoeddwyd ganddo yn
1762. Gwnaeth hi i amryw rai duwiol a fuont feirw yn Sir Aberteifi, yn agos i Langeitho,
oddeutu yr un amser, ac o'r gynnulleidfa hono, ac un arall o Sir Gaerfyrddin.]

HED fy enaid, c'od i fyny,
Ysgwyd sorod y carchardŷ
Daw rhai gwedi cael eu gwared
O gadwynau 'u holl gaethiwed;
Eu cnawd a'u esgyrn oll yn llechu
Yn y ddaear, eu hen lety:
Yn dawel'nghyd, heb drafferth byd,
Diffrwyth i'w deffro;
Ac i aros hyd nes delo
Sŵn yr udgorn i'w dihuno.

'Rwy'n dych'mygu gweld eu cefen,
Fry yn pasio heibio'r haulwen,
A phob un yn chwareu 'i aden,
Un yn ol y llall yn llawen,
Heibio'r ser o bob ryw raddau,
Gado'r lloer a'r holl blanedau,
Obry lawr, bellder mawr,
Aethus i synu,
Hwythau'n esgyn byth i fyny,
Yn yr eangder pur yn canu.

'Roedd angelion megys muriau
O bobtu'n gylch yn ol eu graddau,
Rhes'n ol rhes yn dysgu 'ynt gan
Newydd gainc i'r anwyl Iesu;
'N awr maent wedi dysgu eu gwala,
'Roeddent wedi dechreu yma,-
Gyda'r Oen, fyth heb boen
Yn ymddigryfu;
Blith dra-phlith â'r hardd gwmpeini
Ehedodd gyda hwynt i fyny.