A ydych chwi yn gwybod yna
Am ein gofid ni sydd yma?
Neu a fedrwch gydymdeimlo
A'r rhai hyn sy'n cael eu temtio?
A oes rhai oddiyna, weithiau,
Yn d'od yma ar negesau
Mawrion, maith, fel y daeth
Moses ac Eli,
Ar newidiad gwedd yr Iesu
Mewn gogoniant i ryfeddu?
Mae fy ffydd, neu mae'm dychymyg,
Yn bryderus iawn, yn debyg,
Fod rhyw swn yn do'd i'm clustiau,
O'u dedwyddol faith ganiadau, –
Mae yn hedeg dros y bryniau
Ar adenydd awel denau,
Yn d'od a rhin, nefol win
I loni 'm blin enaid;
Ac yn rhoi rhyw hyfryd syched
Am fod yn eu gwledd fendiged.
Wrth fyfyrio ar eu rhoddion
Mae cenfigen yn fy nghalon,
Fod fy nghoelbren i heb symud
O wlad y gwae i dir y bywyd;
Deffro 'm ffydd, dos dros y bryniau,
Cymer ran o'u gwleddoedd hwythau;
Mae'n brydnawn diweddar iawn,
Buan cawn orphwys;
A rhoi'n beichiau lawr ac arllwys
Ein holl ofid yn Mharadwys.