Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel dyn perffeithia'r olwg, tebyg'sai 'i gweld hi'n dod,
Nad oedd yn mhlith a welodd hyd yma ei bath yn bod;
A'r clwyf yn cael ei gauad, a'r gwaed yn stopi'n glau,
A'r poen debygsai o deimlo yn union yn iachau.

Mor deg ac mor garuaidd, mor nefol ac mor hardd,
Blodeuyn pur y blodau, a ffrwyth holl ffrwythau'r ardd;
Nes oedd yr holl fendithion o'i gwmpas gylch a'u dawn,
Wrth edrych yn eu hwyneb yn colli eu lliwiau'n llawn.

Can's tegwch pob creadur oedd yn ei hwyneb cun,
A miloedd maith yn rhagor'nawr wedi ei gasglu'n un;
A chariad ar ei gruddiau, dysgleirdeb yn ei gwedd,
Ag oedd yn gwneyd ei chwmni yn bleser ac yn hedd.

Nes daeth rhyw wres o gariad yn gymhwys fel y tân,
I mewn i galon Adda nas teimlodd ef o'r blaen;
A goglais yn ei enaid, dim bellach a'i boddhâi,
Oni chai drigo'n wastad yn unig man y b'ai.

Ac yna pan ddihunodd o ryw felusaf hûn,
O hyny hyd yn heddyw erioed a deimlodd dyn;
Fe 'drychodd gylch o'i gwmpas, rhaid oedd ei chael hi mwy,
Neu wedi ei gweld a'i cholli, saith dyfnach oedd ei glwy'.

Fe'i gwelai'n nesu ato wrth glun ei Chrewr glân,
Pwy ddwêd faint ei lawenydd, pwy ddeall rym ei dân?
'N ol cwymp prin gellir gwybod, wyr tân anlladrwydd ddim,
Am gariad paradwysaidd, mo 'i rinwedd ef na 'i rym.

A'i gwedd yn concro yspryd, yn deg fel bore wawr,
Yn gywir fel breuddwydiodd am dani er's haner awr;
Fe 'i gwisgwyd a phob tegwch o'r nef a'r ddae'r yn un,
Yn mhob rhyw gymhwysiadau yn gymhar llawn i ddyn.

Hi wyddai mai i ymg'lymu mewn sanctaidd 'stâd yn nghyd,
Yr oedd hi'nawr yn dyfod at frenin yr holl fyd;
Y gynta' rioed briodas, yr ardderchocaf un,
Gysylltwyd yn Mharadwys gan Grewr nef ei hun.

'N ol syllu o Adda arni'n awr at ei Grewr trodd,
"Nis gallaf atal d'wedyd," be fe, "r wy' wrth fy modd!".
O Grewr mwyn haelionus, trugarog, mawr ei fri,
Dy eiriau ti gyflawnaist uwch y meddyliais i.

Y cwbl yn yr awyr, a'r cwbl ar y dòn,
Sydd hardd i gyd a roddaist, ond llawer harddach hon;
Yn awr y gwelaf asgwrn o'm hasgwrn i yn lôn,
A chnawd o'm cnawd fy hunan yn sefyll o fy mlaen.

A gwraig ydyw ei henw, o berffaith ŵr hi wnaed,
Ac am yr achos yma gâd dyn ei fam a'i dad;
Un enaid ac un galon, ac wrth ei wraig y glŷn,
Dau gnawd ni fyddant mwyach yn wastad ond yr un.