CEINION
LLENYDDIAETH GYMREIG.
MYNACH Y MAES GLAS.
CAFWYD y ffug-chwedl ganlynol yn ysgrifenedig ar femrwn, yn mysg hen ysgrifeniadau oeddynt yn nghadw yn Wynnstay cyn ei fyned ar dân, pan y difawyd llawer o rai tra gwerthfawr; ac yn eu mysg, yr ysgrif wreiddiol o'r chwedl ganlynol, yr hon yn ddiammeu a gyfansoddasid gan rai o Fyneich y Maes Glas, cyn dadgorfforiad y Mynachlogydd. Yn ffodus, tua dechreu y ganrif hon, darfu i gyfreithiwr ieuanc, Thomas Trevor Mather, Ysw., yr hwn a roddasid ar waith i chwilio i mewn i'r hen ysgrifau yn Wynnstay, o chwilfrydedd, adysgrifio y chwedl hon; a'r diweddar Edward Edwards, Ysw., o'r Maes Garmon, yr hwn oedd yn dra chyfeillgar A'r boneddwr dywededig, gymeryd adysgrif o honi; ac felly ei cadwyd rhag myned ar ddifancoll, megys yr aeth amryw ysgrifau gwerthfawr eraill yn ngoddaith Wynnstay.
Y mae yn deilwng o sylw, bod un dra thebyg iddi, yn boblogaidd yn llenyddiaeth yr Almaen, dan yr enw "Hen a Newydd;" a cheir amlinelliad o un gyffelyb yn mysg ffug-chwedlau Ffrainc, a Sweden. Y mae Washington Irving, Ysw., hefyd, yn rhoddi adroddiad cellweirus o'r unrhyw, yn ei chwedl "Rip Van Winkle:" ac y mae yn ddiamheuol mai yr hen chwedl hon, a adroddid yn mysg y Myneich Cymreig, oedd gossail yr hen gerdd ddysyml, oedd yn dra phoblogaidd yn ein gwlad gàn mlynedd yn ol, dan yr enw "Cerdd yr Hen wr o'r Coed."
Gweithiodd Mynachaeth ei ffordd i gryn ddylanwad mewn cyssylltiad A'r grefydd Gristionogol, yn lled. foreu yn mysg ein henafiaid; ac y mae yr adfeilion lluosawg o Abbattai, a Mynachdai o bob gradd, arddull, a maintioli, a dryfrithant y Dywysogaeth hyd heddyw, yn brawf digonol o hyny. Yr oedd amryw o honynt yn adeiladau o faintioli enfawr, a chelfyddyd yr oesoedd boreuol wedi bod ar ei heithaf yn eu haddurno; ac yn y cyffredin, dewisid rhyw lanerch gysgod-fawr a ffrwythlawn yn orsafau iddynt; a'u tyrau a ymddyrchafent yn nghanol coedlwyni tew-frig, trwy ba rai yr ymdroellai llwybrau difyrus, a neillduedig, gerllaw ffrydiau dwfr yn fynych. Gorchuddiai muriau llwydion y crefydd—dai hyn lawer cam ymddygiad mae yn wir; a choleddid syniadau tra chyfeiliornus gan lawer o'r hen Fyneich, yn ddiau; ond llochesent o'u mewn hefyd, lawer meudwy hynod o dduwiol-frydig, y rhai ni chymerent nemawr o ddyddordeb mewn. mwyniannau anianyddol, ond a werthfawrogent neillduaeth y Fynachlog, er meithrin dyhewyd crefyddol; ac un o'r cyfryw ydoedd arwr y Chwedl ganlynol, sef,
"Y BRAWD MEURIG, O'R MAES GLAS."
Ar un adeg, yr oedd yn Mynachlog y Maes Glas, gerllaw Treffynon, wr o Fynach, yr hwn oedd yn dra chlodfawr drwy yr holl wlad gylchynol, am ei ddysgeidiaeth a'i ddyhewyd; ac yr oedd ef yn wr dysyml a di rodres, fel y mae dynion o wybodaeth ehang yn gyffredin; canys y mae gwybodaeth fel y cefnfor, y pellaf yr hwylir ar ei wyneb, ehangaf yw yr arwel, a lleiaf yr ymddangoswn ninnau i ni ein hunain. Ond, er hyny, yr oedd y brawd Meurig ar amserau, yn ddarostyngedig i amheuon, a phryder meddwl hynod o drallodus; eto, wedi i'w wyneb grebychu, ac i'w wallt wynu gan hir ddyddiau, a llafur meddwl di orphwys mewn ymchwiliadau ofer, efe a orfyddid i ddisgyn yn ol ar ffydd plant bychain; ac yna, gan ymddiried ei fywyd i weddi, efe a gymerai ei siglo yn dawel ar lanw cariad pur, gweledigaethau sanctaidd, a gobeithion nefol. Eto, yn mhen ychydig, cyfodai rhuthr-wyntoedd drachefn i luchio bad yr hen Sant; adchwelodd temtasiynau y deall a dechreuai rheswm gwestiyno ffydd yn galed, a'i cheryddu yn daiog; yr hyn a daflai y brawd Meurig i'r prudd-glwyf. Dechreuai cymylau duon nofio dros ei ysbryd, aeth ei galon yn oer, di deimlad, a di fywyd, fel na's gallai weddio mwyach. Gan grwydro mewn syn-fyfyrdod pruddaidd ar draws y wlad, efe a eisteddai ar hen gerryg mwssoglyd, a ymdröai ger ewyn y rheieidr, ac a lerciannai yn ngodwrdd y llwyni; ond, yn ofer yr ymofynai efe am oleuni i'w feddwl tywyll a phruddaidd, yn holl ddadguddiadau natur. Un attebiad syml yn unig a roddai y mynyddoedd, y coedwigoedd, a'r holl afonydd, i'w holl ymholion pryderus;—Y Duwdod!— Deuai y brawd Meurig allan o amryw or profedigaethau hyn yn fuddugol; ac yr oedd ei ffydd yn ennill nerth ychwanegol yn mhob ymdrechfa; canys gwronfa cydwybod yw tem-