Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

tasiynau: oni fydd iddynt ei dinystrio, y maent yn sicr o'i chryfhau.

Ond, wedi talm o amser, daeth anesmwythder dros ei ysbryd drachefn, ac ymosodid arno gan ystorm lemach nag erioed o'r blaen.—Efe a sylwasai fod pob peth cain a dymunol, yn colli ei ddylanwad trwy hir ymarferiad;—bod y llygad yn fuan yn blino ar y werydre deccaf, y glust ar y gerddoriaeth bereiddiaf, a'r galon ar y gobaith anwylaf; ac yna, efe a ddechreuai ymofyn yn amheus a phryderus,-"Pa fodd y gallwn ni gael ffynnonell o lawenydd tragywyddol, hyd yn nod yn y nefoedd? Yn nghanol gogoniant a hyfrydwch di ddiwedd, oni bydd i bleser annewidiol beri annwyf (ennui), a blinder o'r diwedd? Pa ddyn a ddymunai i'w bleser penaf barhau yr un byth, yn hollol ddi gyfnewid. —na byddo mynedol mwyach, na dyfodol bellach; dim adgofion am a fu, na gobeithion am a ddaw?" Fel hyn yr ymsoniai y brawd Meurig; ac yr oedd ei amheuon yn cynnyddu beunydd, a'i annghrediniaeth yn cryfhau yn barhaus.

Tra yr oedd efe yn y tywydd yma, efe a aeth allan o'r Fynachlog un boreu cyn cyfodi o'r myneich eraill; ac aeth i waered i'r glyn gerllaw. Y maesydd eto yn llaith gan wlaw y nos flaen- orol, oeddynt yn dysglaenio dan belydrau cyntaf haul y boreu, fel pe buasai gemau wedi eu taenu. drostynt; ac ymrodiai Meurig yn bwyllog drwy y llwyni cysgodfawr ar lethr y bryn;—yr ehediaid, y rhai nid oeddynt namyn newydd ddeffroi o'u cwsg, a glwydent yn yr yspyddaid, gan ysgwyd eu blodion rhosynaidd ar ei ben moel ef; ac ambell eilieren, heb lawn ddeffroi eto, a ehedfanai yn ysgafnaidd yn mhelydrau yr haul, er sychu ei hedyn llaith. Safai Meurig yn synedig i edrych ar yr olygfa hardd oedd o'i flaen. Efe a adgofiai mor swynol yr ymddangosai iddo pan ei gwelsai gyntaf erïoed; ac â'r fath lawenydd yr edrychasai efe rhagddo am gael diweddu ei ddyddiau yn yr encilfa ddedwydd hono.—Iddo ef, blentyn y ddinas boblogaidd a thrystfawr, yr hwn a ymgynnefinasai yn unig â'r heolydd culion, a'r muriau anhylon, yr oedd rhyw newydd-deb swynol yn yr olwg ar y coed, y blodau, a'r awyr las.—Mor ebrwydd yr aeth ei brawf-flwyddyn yn y Fynachlog drosodd! Yr ymrodfeydd meithion a fwynhasai yn y glynoedd! a'r darganfyddiadau dorus a wnelsai!-y ffrydiau yn godyrfu yn mysg yr hesg;-llawntiau yn cael eu mynychu gan adar cân;-y rhoslwyni persawrus, a'r mefus gwylltion pereidd-flas! Y fath or-lawenydd a barai eu darganfod am y waith gyntaf!—cyfarfod a ffynnonau nad yfasai o'u dwfr o'r blaen; neu ganfod twmpathau mwssoglaidd, ar ba rai ni buasai yn ymorphwys yn gynt, &c. Ond och! nid ydyw y pleserau hyn eu hunain yn parhau nemawr yn fuan iawn byddys wedi tramwy holl lwybrau rhamantus y wigfa; byddys wedi cynefino & chathlau holl adar y coed; byddys wedi tynu pwysïau o'r holl flodau; ac yna iach son am geinion y wlad mwyach! Y mae cydnabyddiaeth, neu gynnefindra, yn disgyn megys llen amliwiedig rhyngom a'r greadigaeth, ac yn ein gwneuthur yn ddall i'w cheinion, ac yn fyddar i'w pher-seiniau; ac felly yr ydoedd yn awr gyd a'r brawd Meurig; canys tra yn adfyfyrio fel hyn, cerddai y mynach rhagddo, a'i lygaid tu a'r llawr, ond heb weled dim; a'i freichiau yn mhleth ar ei fynwes; ac felly efe a ddisgynai i'r glyn, ac a groesai yr afonig, gan dramwy trwy y coed, a chroesi y bryniau, wedi ei lyncu i fynu gan syn-fyfyrdodau, fel mai prin y gwyddai i ba le y cyfeiriai, hyd onid oedd tyrau y Fynachlog wedi diflanu yn y pellder; ac o'r diwedd, efe a safai; ac erbyn i'w feddwl ymddadebru, efe a welai fod coedwig fawr yn ymledu o'i flaen, can belled ag y gallai ei olygon dreiddio, megys cefnfor di derfyn o wyrdd-lesni; ac fel yr ymwrandawai, clywai fil o seiniau. melusion yn cyd gyfarfod yn ei glustiau; a rhyw awyr beraroglaidd a ymlithrai drwy y dail. Wedi bwrw rhyw edrychiad synedig ar y tywyllwch blydd a deyrnasai yn y wigfa, elai Meurig i'w chwr yn lled betrusgar, ac ofnus; gan led dybio ei fod yn sangu tir gwaharddedig, ac yn myned i mewn i gyssegrfa y Duwdod. Fel yr elai rhagddo, ymddangosai y Wig yn fwy-fwy arddunawl a mawreddawg, a chanfyddai y coed yn orchuddiedig gan flodion amryliw a phersawrus, y rhai a fwrient allan berarogledd anadnabyddus; ond, heb ddim o natur lesgaol neu gwsg-beiriol ynddo, fel y mae yn gyffredin yn mheraroglau y ddaear: yn hytrach math o ffrydlif moesol ydoedd, yn eneinio yr enaid; a thra yn hyfryd i fwynhad y galluoedd anianyddol, yr ydoedd yn rymusol ac adfywiol i'r ysbryd, fel y mae yr olwg ar weithred dda yn gymelliadol i rinwedd moesol. O'r diwedd, efe a welai yn mhellach yn mlaen, lawnt yn llachar gan oleuni rhyfeddol; ac efe a eisteddai yno i edmygu a mwynhau yr olygfa: ac yn ddisymwth, disgynai sain cân aderyn ar ei glust; y seiniau oeddynt mor beraidd, fel na's gellid cael iaith gyfaddas i'w darlunio,-yr oeddynt yn dynerach na disgyniad rhwyfau ar lyn yn yr haf, na godwrdd yr awel yn nghangenau yr helyg wylofus, neu ebychiad maban hunedig. Ymddangosai i feddwl y mynach, fel pe y buasai holl beroriaeth awyr, daiar, a dwfr, melodiaeth y llais dynol, ac offerynau cerdd, wedi eu crynhoi yn y gân ddigyffelyb hon. Prin y mae yn briodol ei galw yn gân; ond dylifiadau o felodiaeth;—nid iaith ydoedd, ac eto, llafarai y llais. Yr oedd doethineb, gwyddonaeth, a barddoniaeth, oll yn