cyd gyfarfod ynddi; ac wrth ei gwrandaw, cyrhaeddai un bob gwybodaeth ddymunol a gwerthfawr. Gwrandawai Meurig ar y cathlydd di gyffelyb dros hir amser, a hyny gyda phleser cynnyddol, ac annrhaethadwy. O'r diwedd, dechreuai y goleuni a lewyrchai y wigfa ddiflanu; clywid godwrdd isel yn mysg y llwyni, a thawai yr aderyn. Arhosai Meurig yn ei un-fan yn berffaith ddi gyffro am yspaid o amser, ac ymdeimlai fel un yn dihunaw o gwsg darswynol, neu yn ymddadebru o berlewyg hapus. Ar y cyntaf, efe a edrychai o'i amgylch, fel un wedi ei lanw â syndod; ac yna ymdrechai i gyfodi; ac ar hyny deallai fod ei draed wedi myned yn ddi deimlad, a'i aelodau wedi colli eu hyblygrwydd, fel mai trwy anhawsdra y dechreuai efe gyfeirio ei gamrau yn ol tu a'r Fynachlog. Ond, fel yr elai rhagddo, cynnyddai ei synedigaeth bob cam; canys ymddangosai wyneb yr holl wlad wedi newid mewn modd hynod;—lle y gwelsai blanwydd tyner yn blaendarddu yn y boreu, efe a welaidderw cauad-frig, o ymddangosiad oedranus yn awr: efe a edrychai am y bont-bren fach, ar yr hon yr arferai groesi yr afon; ond, yr ydoedd wedi diflanu, ac yn ei le yr oedd bwa maen, cadarn. Fel yr oedd efe yn myned ger gwrých drain, yn lled agos i'r Fynachlog, lle yr oedd rhyw fenywod yn tanu eu dillad i'w sychu; y merched a edrychent yn graff arno, gan ddywedyd wrth eu gilydd,—"Dyna henafgwr wedi ei wisgo yn gymmhwys fel myneich y Maes Glas. Nyni a adwaenom yr holl hen frodyr perthynol i'r ty hwnw; ond ni's gwelsom hwn. erioed o'r blaen." "Symleniaid ydyw y merched hyn," medd Meurig, ac yn mlaen ag ef; eto ar yr un pryd yn teimlo yn bryderus; ac fel yr oedd efe yn esgyn ar hyd y llwybr cul, a gyfeiriai dros lechwedd y bryn tu a'r Fynachlog, cyflymai ei gamrau; ond, nid oedd y porth yn yr un fan mwyach; ac yr oedd y Fynachlog wedi cyfnewid yn drwyadl yn ei hymddangosiad -gorchuddiai lawer mwy o dir, ac yr oedd yr adeiladau yn llawer lluosocach na phan ei gwelsai o'r blaen! Yr oedd onnen, a blanasai ef ei hun yn agos i'r Capel, ychydig fisoedd cyn ei ymgrwydrad, yn awr yn gorchuddio yr adeilad gyssegredig â'i changenau deiliog! Wedi ei orlethu gan ei synedigaeth, y mynach a nesäodd at y porth newydd, ac a ganodd y gloch yn wylaidd; ond, deallai yn y fan nad yr un gloch arian—dôn, swn yr hon a adwaenai efe mor dda, oedd yno yn awr! Agorid y drws gan frawd lled ieuanc, yr hwn a gyferchid gan Meurig yn grynedig, a'r gofyniad, "Pa beth a ddygwyddodd? Onid yw Morgan mwyach yn borthor y Fynachlog?" "Morgan?" medd y porthor, "nid ydwyf yn adwaen neb o'r enw yma."
Rhwbiai Meurig ei lygaid mewn syndod, a dywedai, "A ydwyf fi wedi gorphwyllo? Onid Mynachlog y Maes Glas ydyw hon, o'r hon yr aethum allan y boreu ddoe?"
Y Porthor a edrychai yn graff arno, ac a ddywedai, "Myfi a fum yn borthor yma y pum mlynedd diweddaf hyn, ac nid ydwyf yn cofio. i mi eich gweled chwi yma erioed o'r blaen." Yr ydoedd lluaws o'r brodyr yn ymrodio i fynu ac i waered ar hyd y clwys-rodfeydd;— rhedai Meurig attynt, a galwai arnynt; ond nid attebent ef.—Efe a aeth yn nes attynt; ond nid oedd yr un o honynt yn gallu ei adnabod ef.— "A gymerodd gwyrth le yma?" eb efe. "Yn enw y nefoedd fy mrodyr, a welodd yr un o honoch mo honof o'r blaen? a oes neb o honoch yn adwaen y brawd Meurig?"
Edrychent oll arno gyda syndod, a mesur o fraw. "Meurig?" ebe yr henaf o honynt o'r diwedd; "yr oedd brawd o'r cyfryw enw yn y Fynachlog yma gynt. Clywais yr hen ddynion yn son llawer am dano pan oeddwn yn fachgenyn; a dywedent ei fod yn ddyn tra dysgedig; ond yn fath o freuddwydiwr, ac yn hoffi unigrwydd a neillduaeth. Un boreu, efe a aeth i waered i'r dyffryn, ac a ymgollodd o'r golwg o'r tu ol i'r coed draw; dysgwyliai y brodyr y deuai yn ol tua'r hwyr; ond, ni ddychwelodd mwyach; ac ni chlywodd neb byth pa beth a ddaeth o hono: ond y mae bellach gan mlynedd, neu fwy, er hyny."
Ar y geiriau hyn, llefodd Meurig à llef uchel; a chan gwympo ar ei liniau, efe a ddyrchafai ei ddwy law i fynu, ac a lefai yn ngwresawgrwydd ei galon, "Rhyngodd bodd i ti O Dduw, ddangos i mi fy ffolineb pan y cydmarwn lawenydd y ddaiar â llawenydd y nef: dyma gan mlynedd wedi treiglo dros fy mhen megys un diwrnod, tra yn gwrando ar yr aderyn sydd yn canu yn dy baradwys di. Yr ydwyf yn deall dedwyddwch tragywyddol yn awr—Arglwydd trugarha wrthyf, a maddeu i'th was annheilwng." Yna y brawd Meurig a adroddodd i'r holl frodyr ymgynnulledig, pa beth a ddarfuasai iddo ef er pan adawsai y Fynachlog, a'r ffordd a dramwyasai: a chyn machludiad haul, efe a hunodd mewn tangnefedd.
Y fath wyrth nodedig a hon, a gymhellai y brodyr i dramwy yr un tir ag yr aethai efe drosto; ac fe'u galluogid i wneyd hyny yn rhwydd, trwy ddal sylw ar y tir-nodau a roddasai efe iddynt: a chanfuant mai y llanerch ar yr hon y saif hen balas PENTREHOBYN, gerllaw y Wyddgrug, oedd y lawnt golau, lle y mwynhasai efe y fath orphwysfa ryfeddol; ac y mae cae gerllaw y Plas dywededig, yn dwyn enw arno, sydd yn cadw cof o'r ffug-chwedl hon hyd heddyw, gan ei fod drwy yr oesoedd yn cael yr enw, "The Call-bird Field," neu, "Maes Cân Aderyn."