Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

Tua thri ugain mlynedd yn ôl, yr oedd hen Gân o gyfansoddiad led annghelfydd, yn dra phoblogaidd yn Nghymru, dan yr enw "Cerdd. yr Hen wr llwyd o'r Coed;" a chan fod lle cryf i gredu mai ar y ffug-chwedl uchod yr oedd yn seiliedig, credwn na byddai yn annyddorol gan ein Darllenwyr.

"Dyma ystori wych i'w chofio,
I'r sawl sydd ag 'wyllys ganddo,
I folianu Duw yn ffyddlon,
Mae'n ddyddanwch mawr i ddynion.
Hen wr oedd yn byw mewn crefydd,
Ac yn gweddio'n ddyfal beunydd;
Yn ei weddi 'r oedd deisyfiad
Am un ffafr cyn ei 'madawiad;
Cael gweled un o'r gwyrthiau lleia'
Yn y wlad lle'r oedd ei drigfa
Fel y byddai'n fwy 'wyllysgar
I Dduw tra fyddai ar y ddaear
Ar foreu teg yr ae fo i rodio
I lwyn o goed oedd agos atto;
Yn mrig pren fe glywai'n canu
Lais Aderyn i'w lonychu.
'Roedd e'n hen, fo glywsai lawer
O amryw gerdd ar dannau croyw-ber;
Ac erioed ni wyddai glywed
Beraidd fiwsig can felused.
Pan glybu ef mor fwyn a hyny,
Nesu wnaeth lle'r oedd yn canu,
Dan y pren i gael ei wrando,
Ac yno bu nes tewi o hono:
A phan dawodd fel na chlywodd,
Efe eilwaith a feddyliodd
Am droi'n ol i fyn'd tuag adre,
Yn wr hy' i'r tŷ lle buase.
'Rhyd y ffordd 'r oedd yn myfyrio,
Pa hyd buasai yno'n gwrando,
Dwy awr neu dair, efe debygai,
Dim i ma's yn hwy ni buasai:
A phan ddaeth i olwg cartrau,
Rhyw ryfeddod fawr a welau;
Y tai oedd, a'r cloddiau'n ddiball,
Wedi eu newid mewn modd arall.
Myn'd i'r ty dan syn feddylio,
Pobl ddyeithr ydoedd yno;
Nid oedd un-dyn a adwaenai,
Ni wyddent hwy pwy ydoedd yntau.
"Dyma helynt sydd ryfeddol,
O Arglwydd Dduw p'le mae fy mhobol?
Heddyw'n myned o'm ty allan,
A'r fath gyfnewid yma 'rwan!"
"Mae'r un teulu yma'n tario
Er's blyneddau heb newidio:
Dyeithr yw'ch rheswm, ni wyr un-dyn
Am bwy yr ydych yn ymofyn!"
Doedai hen Wr llwyd o gornel,
"Gan fy nhad mi glywais chwedel,
A chan ei dad y clywsai yntau,
Ac ar eu hol mi a'u cofiais innau;
Fyn'd o Wr o'r ty yma allan
Yr un enw, a'r un oedran;
Ac na welwyd mo'no eilwaith,
Nag am dano ddim gwybodaeth!"
Erbyn casglu llyfrau a'u chwilio,
Yr oedd blyneddoedd wedi passio,
Lawn dri chant a deugien,
Tra fu'n gwrando ar fiwsig lawen!
Dyma helynt wých ryfeddol
Gan un angel o wlad nefol;
Pa faint mwy f'ai glywed miloedd
Yn cyd-ganu yn y nefoedd?
Gwybu'r Hen-wr wedi hyny
Mai angel Duw oedd yno'n canu
Ac a draethodd iddynt hwythau
Y gwirionedd fel y buasau.
Erbyn darfod iddo dd'wedyd
Y modd y cawsai y rhoddiad hyfryd
Nid oedd o'i sylwedd yn eu sylw,
Ond rhyw ddyrnaid bach o ludw."


—Argraffwyd yn y Mwythig, dros Dafydd Jones, 1750.

IOLO GOCH, A'I GYFANSODDIADAU.

IOLO GOCH, neu fel ei gelwir gan rai, "EDWARD LLWYD," oedd yn un o feirdd enwocaf y Dywysogaeth yn ei oes. Dywedir ei fod yn arglwydd Llechryd, yn agos i Ddinbych, a'i fod yn cyfanneddu mewn lle a elwid Coed Pantwn, yn mhlwyf Llannefydd, swydd Ddinbych. Gan ei fod yn hanu o deulu uchel-waed, a bod ettifeddiaeth fawr yn perthyn iddo, efe a gafodd addysg dda; a chymerth ei raddio yn Athraw yn y Celfyddydau, yn un o'r Prif-Ysgolion. Dywedir fod Pantwniaid Plasgwyn, Pentraeth, yn hanu o hono; o leiaf, yr oeddynt yn hanu o'r un gwehelyth. Ymddengys hefyd ei fod ef wedi mwynhau oes faith iawn; canys yr ydym yn canfod yn mysg ei Gyfansoddiadau, Alareb ar farwolaeth Tudyr ab Gronw; yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1315; a thrachefn, y mae yn eu mysg, Gywydd i'r Wibseren, a ymddangosodd yn y flwyddyn 1402. Ei athraw barddonol, oedd Ednyfed ab Gruffydd, bardd o Faelor, yn Mhowys Fadog, yr hwn oedd yn frawd i'r ddau fardd, Madog Benfras, a Llywelyn ab Gruffydd, o Swnlli, yn mhlwyf Marchwiail, lle y cynhaliwyd Eisteddfod ar eu traul, a than nawdd Iarll Mortimer, yn nheyrnasiad Edward y Trydydd; "ac yn yr Eisteddfod hono yr addurnwyd Iolo Goch ag addurn cadair, am ei wybodau a ddysgws gan Ednyfed ab Gruffydd parth gwybodau cerdd dafod a'i pherthynasau."