Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn adeg gwrthryfel Owain Glyndyfrdwy, defnyddiai Iolo Goch ei awen, a hyny yn dra effeithiol, i gyffroi ysbryd gwladgarol yn y genedl Gymreig, a'u cymhell i ymfyddino dan luman eu cydwladwr dewr-wych, yn ei ymdrechion i fwrw iau y Saeson oddiar eu gwarau.

Yr ydym wedi cyfleu y Cyfansoddiadau canlynol o eiddo ein Bardd, mor agos ag y gallem farnu i'r drefn amseryddol yn yr hon eu cyfansoddwyd.

CYWYDD I FARF Y BARDD, A'I RHWYSTRODD I GUSANU EI GARIAD.

Doe y pryd hwn yr oeddwn i
Drwy fedw'n ymdrafodi,
Ag Euron hardd goron hoyw,
Gorwyn Eigr[1] gair gorau groyw.
Gafael daer am y gofl[2] deg,
A gefais gwn i gofeg;
Gafael arddwrn a gefais,
Gaifn hael am gefn ei hais;
Gafael chwith a wnaeth hithau,
A gwedd mwyn am y gwddw mau;
Ymwasgu fal ewlm ysgwthr
Am aur coch ymwyrio ewthr
Ymgusanu y bu am
Ni bu hir hyny, baham,
Dystyru fil dystryw foer
Gan fun oleulun liw-loer
Ym ystryw rhoed am wasg cu
Am esgyrn cul ymwasgu
Goglais gentti pan giglau
Trawswch a blew morwch mau
Fy marf gneifiedig, ddig-ddysg,
Grin gerbyd fal croen garw bysg;
Rhisglyn hen geubren gobraff,
Yn rhisglo'u grudd fel rhasgl graff.
"Howld!" eb Gwen, nid atteb gwych,
"Paid ti, poed oer y peittych.
Ffwrdd! ffwrdd a thi! ffordd a'th ên!
Somgar wyt, a oes amgen."
Cael serthedd, ciliais wrthi,
Ni chweru'r ferch ni char fi
Diriad iawn fu'r drudaniaeth
Pa ddiawl anneddfawl a wnaeth?
I gleiriach[3] bwbach y bobol,
Gusanu'r fwyn, dan dwyn dôl.
Digri oedd weled gwedd gu
Deugorff Wen yn ymdagu;
Aethum a'm bargod eithin,
Em aur i sipio'i min;
Ysglyfiais barf di-warfa[4]
Is gwefl dyn bu ysgyfl da
Yn serchog dawedog daer
Yn glochydd i'm goleu-chwaer,
Briwais glaer wyneb braisg lamp,
A boch-gern merch ddi bechgamp,
Gwesgais di-groenais ei grudd,
Gwasgrwyn tost am ddyn gwisg-rydd.
Och! nad wy 'rhwng ei dwyfer,
Oer foreu fyth i'r farf fer,
Bondo fal brig perth bendew,
Byrion yw blaenion y blew,
Tin ab gul, tenau heb gig,
Twyn o brif frwyn ofer-frig.
Gardiaf o baithgnaf bwth,
Neu rawn moelrhwn ymwel-rhwth
Garw o beth ar gwr boch
Ei bod fal bargod byrgoch
Draenoges ddiles ddialedd.
I ddigio'r wiw ddwg anwedd,
Darfu i'm dyllu o dwyll
Barbed y mun bybyrbwyll;
Gwnawd ynot myfyrdawd i mi
Gneifio y marf gnu mieri,
Ni aill ei nawdd yw hyn,
Eillio hon a min ellyn,
Anrhegion mawr yn hygoll,
A gawswn ped eilliaswn oll;
Diofryd peth diafriw
A roddaf o byddaf byw.
Cneifio marf cyn ei tharfu
Cneifiad oen cynhauaf du
Dros ei gadu'n draws goden
I dyfu gauaf gnu gên
I guddio'r croen a'r gwddf rwyth
A'r ddwyfron mor orddiffrwyth
O mynaf serchocaf son
Ymgaru mi ag Euron.

—IOLO GOCH, a'i cant.

CYWYDD, YN YR HWN Y MAE Y BARDD YN DARLUNIO EI DDEWIS-DDYN.

Caru'dd wyf, caruaidd yw,
Cwrel-rudd criawalryw;
Cares falch, hebgores fedd,
Caredig ferch, caer degfedd:
Cangen ddifethl aelgethloyw,
Ceginwych geirwddwfr erych croyw
Cegiden bybyr-wen babl,
Cogeil-gorph cu ogelgabl.
Llwyr ing y'm gwnaeth, llawer och,
Llarieidd-gamp, Llywy rudd-goch;
Lloer wyneb lliw eiry Ionawr,
Llary yw a gwiw, lleuer gwawr.
Da iawn yw gwedd y dyn gwyllt,
A'i dyfeisiad, dwf Essyllt;
Dillynaidd, da ei lluniwyd,
Di wyl hon myn Dewi lwyd;
Tal ar aur mal goreu mold,
Briallu wallt bre lliwold;
Deulin eigr, da oleu-grair,
Dwy ael fain, megys delw Fair;
Llygad fal maen cawad coeth,
Tebyg i faen y Tiboeth;

  1. Morwyn
  2. coflaid.
  3. Hen wr musgrell.
  4. di warafun.