Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/5

Gwirwyd y dudalen hon

Yn addurnedig â llawer o gerfluniau tra harddwych.

CEINION
LLENYDDIAETH GYMREIG:

YN CYNNWYS DETHOLION O WEITHIAU PRIF FEIRDD
AC YSGRIFENWYR RHYDD-IEITHOL Y DYWYSOGAETH, O'R BEDWAREDD GANRIF
AR DDEG HYD YR OES HON;

YN NGHYDA
DARNAU DETHOLEDIG O GYFANSODDIADAU RHAI O'R AWDWYR SEIS'NIG, WEDI EU CYFIEITHU YN FWRIADOL I'R GWAITH HWN.

DAN OLYGIAD Y

PARCH. OWEN JONES,

GOLYGYDD CYMRU," ETC.






AMCAN y Gwaith presenol ydyw darparu i drigolion y Dywysogaeth arlwy ddifyrus a buddiol ar gyfer eu horiau hamddenol, yn nyddiau heuldes yr haf, neu nosweithiau ystormus gauaf. Wrth geisio cwblhau yr amcan yma, y mae y Golygydd yn bwriadu gosod o flaen ei ddarllenwyr ddetholion wedi eu crynhoi o amrywiaeth tra mawr o dardd-leoedd, y rhai yn nghyd a gyflwynant y cynnrychioliad helaethaf a mwyaf deniadol o weithiau ysgrifenyddion brodorawl, mewn barddoniaeth a rhyddiaith, a gyhoeddwyd hyd y pryd hwn; ac mewn gwirionedd yn ffurfio blodiadur o'r fath fwyaf amrywiol a dyddorol. Gan mai Barddoniaeth ydyw yr arwedd fwyaf arbenig a chenedlaethol o lenyddiaeth Gymreig, rhoddir detholion tra helaeth o gyfansoddiadau y prif feirdd megys-

  • IOLO GOCH.
  • DAFYDD AB GWILYM.
  • RHYS GOCH ERYRI.
  • DAFYDD NANMOR.
  • RHYS NANMOR.
  • SION CENT.
  • LEWIS GLYN COTHI.
  • TUDUR ALED.
  • SION TUDUR.
  • WILLIAM CYNWAL.
  • EDMWND PRYS.
  • GRUFFYDD HIRAETHOG.
  • SIMMWNT FYCHAN.
  • GRUFFYDD PHYLIP.
  • RHISIARD PHYLIP.
  • SION PHYLIP.
  • WILLIAM PHYLIP.
  • LLEWELYN DDU.
  • GORONWY OWAIN.
  • DAFYDD DDU ERYRI.
  • DEWI WYN.

Ac amryw eraill o Feirdd Cymreig, a flodeuasant o'r bedwar ganrif ar ddeg hyd y bedwaredd ar bymtheg, gan derfynu gyda detholion o weithiau prif Feirdd yr oes hon. Cynnwysa y detholiad lawer o hen gyfansoddiadau barddonol o ddyddordeb mawr a pharhaus, na buant argraffedig o'r blaen, y rhai a gafwyd o ysgriflyfrau gwerthfawr a gedwir yn llyfrgelloedd pendefigion a bonedd Cymru, y rhai yn garedig a ganiattasant eu gwasanaeth i'r Golygydd. Rhag-ddodir i'r cynnrychion o ysgrifenadau pob bardd, sylw ar yr Awdwr, a'i gyfansoddiadau; ac fe'u dylynir âg ychydig Nodiadau eglurhaol, lle y bernir y bydd hyny yn an-