Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/6

Gwirwyd y dudalen hon

genrheidiol. Yr ydys yn credu y bydd i'r gyfran hon o'r Gwaith gynnwys y cynnrychioliad cyflawnaf o farddoniaeth Gymreig a ddaeth allan o'r wasg hyd yma. Y detholion o ysgrifeniadau rhydd-ieithol, a gynnwysant ranau helaeth o'r Mabinogion, mewn Cymraeg diweddar, chwedlau, traddodiadau, darnau hanesyddol, darluniad o arferion a defodau, &c., yn cael eu dylyn â sylwadau buchofyddol a llenyddol ar yr ysgrifenwyr mwyaf pwysig. Yn y gyfran yma o'r Gwaith, ceir cynnyrchion ysgrifellau grymus—

  • THEOPHILUS EVANS o Langammarch.
  • ELLIS WYNNE o Lasynys.
  • CHARLES EDWARDS
  • LLEWELYN DDU o Fôn.
  • GORONWY OWAIN.
  • WILLIAM WILLIAMS, Pant y Celyn.
  • DR. W. O. PUGHE.
  • D. RHYS STEPHEN,
  • &c. &c.

At yr hyn yr ychwanegir nifer o ffug-hanesion, a bras-ddarluniau gwreiddiol, gan ysgrifenwyr o deilyngdod adnabyddus. Ac fel hyn hyderir y bydd y rhan yma o'r Gwaith yn gyfartal â'r rhan farddonol, mewn dyddordeb a chyflawnder. Heblaw y cynnrychioliad cyflawn yma o ysgrifenwyr brodorol, ychwanegir yn mhellach at werth a dymunoldeb y Gwaith hwn, drwy ei fod yn cynnwys darnau detholedig o'r eiddo ysgrifenwyr Seis'nig enwog, lawer o honynt yn orchest-ddarnau mewn geir-ddawn, addysgiadol fel traethiadau, neu yn llachar fel dychymygaeth, ac wedi eu gweithio allan gan y darfelyddiadau mwyaf cynnyrchiol.

Addurnir CEINION LLENYDDIAETH GYMREIG â phedwar ar hugain o arluniau tra pherffeithiedig, yn cynnwys ardebau o rai o'r Beirdd enwocaf, gan gynnwys Sion Cent, Llewelyn Ddu o Fôn, Dafydd Ddu Eryri, Twm o'r Nant, Ieuan Glan Geirionydd, Glan Alun, Eben Fardd, Gwilym Caledfryn; hefyd, pen-ddarluniau benywod glandeg, darluniadau nodweddiadol o ddrychfeydd a grybwyllir, yn y Gwaith, cyfarwel o leoedd hynod; a darluniadau eglurhadol eraill, dau o bai a fyddant yn hardd-liwiedig. Cwblheir y Gwaith mewn deuddeg rhan, wyth-plyg gorfreiniol, am 28. yr un; neu bedair haner-cyfrol, mewn lliain, a'r ymyl-ddail wedi eu torri, yn ddi addurn, 7s. 6c. yr un; yn eurawg, 8s. 6c.



DARLUN ANRHEG.

Caiff pob Tanysgrifiwr i'r Gwaith hwn, a gyfododd ac a dalodd am yr holl Lyfr, ei ANRHEGU â Darlun mawr, cyfaddas i'w roddi mewn ystram (frame), o'r

PARCH. WILLIAM REES, D.D. (GWILYM HIRAETHOG), O LIVERPOOL.

Fel tyst-nodau trwy ba rai y gellir hawlio y Darlun, rhoddir PEDWAR TOCYN allan i'r Tanysgrifwyr at y Gwaith yn rhanau, wedi eu hargraffu ar y cloriau ar ol y chweched ran; a rhoddir DAU DOCYN allan i Danysgrifwyr am y Gwaith yn haner cyfrolau. Rhaid dychwelyd y rhai hyn i'r Cyhoeddwyr cyn yr anfonir y Darlun allan; ac ni's rhoddir ef i neb dan unrhyw amgylchiad, hyd oni byddo y Llyfr wedi ei orphen, a'r Tocynau wedi eu dychwelyd. Er sicrhau trosglwyddiad dyogel y Darlun, fe'i hamdroir yn ofalus ar rolbren, am yr hwn y cyfodir chwecheiniog.



LLUNDAIN: BLACKIE A'I FAB, PATERNOSTER BUILDINGS, E.C.;
GLASGOW AC EDINBURGH.