Tudalen:Ceiriog a Mynyddog.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

destynau addysgiadol. Galwodd ei hun yn "Mynyddog" oddiwrth enw ffridd oedd y tu uchaf i'w dŷ. Meistrolodd reolau barddoniaeth, ac enillodd aml wobr; ond blinodd yn fuan ar gystadlu ar y mesur caeth. "Yr wyf yn fwy dedwydd o'r hanner," meddai, "wrth ganu caneuon bychain o'm dewisiad fy hun fel daw'r hwyl." Cyn hir, wedi marw ei dad, symud—odd i fyw i Gemaes, a galwodd ei dŷ newydd yn "Bron y Gân." Gelwid am ei wasanaeth fel beirniad, datganwr ac arweinydd i bob llan a thref, a byddai enw Mynyddog yn ddigon i sicrhau llwyddiant unrhyw gyfarfod. Fel arweinydd Eisteddfod, nid oedd ei ail,—difyrrai'r dorf â'i arabedd parod, neu ystori bert neu gân darawiadol. Meddai gorff lluniaidd, tal, heinyf, llygaid treiddgar, wyneb hardd, gwên siriol, a llais clir, swynol. Canai dan gyfeilio ei hun mor naturiol a dirodres ag aderyn. Byddai ganddo wers i'w dysgu ym mhob un o'i ganeuon. Yr oedd yn Eisteddfodwr selog, a hiraethai, fel Ceiriog, am ddiwygio'r Eisteddfod a'r Orsedd.

Yn Eisteddfod hynod Llangollen, 1858, y daeth yn amlwg gyntaf. Bu'n arweinydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddau. Yn Eisteddfod Gwrecsam, 1876, Eisteddfod y Gadair Ddu,— y bu'n arwain olaf.

Carai ei iaith, ei wlad, a'i genedl. Yr oedd yn Gymro i'r carn, a rhoddodd ei oreu i'w wlad. Dyma ddywed am Sais addolwr,— "Y mae rhai o honom yn llawer rhy barod i ymgrymu a gwneyd ein hunain yn slafiaid i'r Saeson sydd yn ymweld â'n gwlad. Os daw Sais i'r wlad, o'r anwyl! rhaid parchu Sais, gan nad pwy na pha beth a fydd. Os daw rhyw snobyn i bentref yn cario gwialen bysgota a basged ar ei gefn, ac yn gwisgo crys brith ac yn siarad Saesneg, O! dyma ŵr bynheddig' wedi dod. Rhaid rhedeg i bob cyfeiriad er cael brasder y tir iddo, a gallai yn y bore y collir y gŵr bynheddig' heb iddo weld yn dda dalu ei