Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MR. WILLIAM WILLIAMS, TYHEN
(GYNT MEIDRIM).

GANWYD W. Williams yn y flwyddyn 1769. Pa le y ganwyd ef, a phwy oedd ei dad a'i fam, nid yw yn hysbys; ond yn ol ei hanes ef, cafodd ei adael gan ei fam pan oddeutu tri mis oed, mewn gwely hen wraig yn mhentref Meidrim, o'r enw Elizabeth Samuel; ac iddi hithau ffoi ymaith, ac ni welwyd mwyach mo honi. Er iddo gael ei adael yn estron diymgeledd, heb dad na mam, eto gofalodd Duw am dano fel Moses gynt yn y cawell llafrwyn; bu Rhagluniaeth yn dirion iawn o hono, er iddo gael ei drosi i lawer man. Goruwchlywodraethwyd llawer o bethau tuag at William Williams er ateb dyben da: bu yn cael ei fagu mewn dau neu dri o fanau. Yr olaf o ba rai ydoedd gyda hen wraig Cwmtrihaiarn, ger llaw Tyhen. Yn yr amser hwnw y teimlodd gyntaf oddiwrth bethau yr efengyl. Aeth уг hen wraig ag ef i'r society mewn fferm o'r enw Leger, pryd y dygwyddodd i'r Parch. W. Williams, Pantycelyn, fod yno. Teimlodd William bach effeithiau y gwirionedd yn ymaflyd gymaint yn ei feddwl, nes methu myned i'w wely y nos hono heb fyned ar ei liniau ger bron Duw i lefain am drugaredd. Cymerodd hyn le pan oedd oddeutu naw neu ddeg oed.

Aeth oddiwrth yr hen wraig i wasanaethu; ac fe ddygwyddodd iddo fyned i deulu â phlant annuwiol iawn ynddo; gogwyddodd yntau gyda eu hagweddau cellwerus, a thrwy hyny collodd y teimladau crefyddol i raddau pell iawn, ond nid yn hollol. Byddai ynddo trwy y cwbl awydd mawr i ddysgu hymnau, ac fe ddysg-