Aeth i lewyg mor drwm ar ol hyn fel y tybiodd pan' ddihunodd mai yn y capel yr oedd; a phwy ryfedd ei fod yn barod i fyned at ei hoff bethau? O'r capel y daeth i'r gwely. Yna dechreuodd bregethu, gweddiodd ar ol y bregeth, rhoddodd air i ganu, dechreuodd y dón ei hunan, ac erbyn hyny canodd pawb oedd yn y tŷ, a phawb, 'rwy'n meddwl, yn canu yn yr ysbryd, nes aeth yn haleluia trwy yr holl le. Testun y bregeth hon oedd, Yr hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef.' 'Dyma lle mae cael cyfiawnhad,' meddai, trwy ffydd yn ei waed ef; dyma lle mae cael santeiddhad a mabwysiad; dyma lle mae cael nerth yn ol y dydd; dyma lle mae cael modd i farw yn dawel, a chael y tangnefedd na wyr y byd ddim am dano; ie, yn ei waed ef, mewn gair, y mae cael pob peth sydd yn angen ar bechadur. Bendigedig fyddo ei enw byth bythoedd.' Y gair a roddodd i ganu ydoedd
"Does gen'i yn wyneb calon ddu
Ond Iesu'r Meddyg da," &c.
Byddai yn rhy faith i gofnodi ei holl ymddyddanion. Dywedai yr ymadrodd canlynol wrtho ei hun, pan nad oedd yn meddwl fod neb yn gwrando arno:—Caru a ddylem, ac nid cornio; dylem anwylo, ac nid casâu. Oblegyd cornio yn lle caru, a chasâu yn lle anwylo, y mae yr Arglwydd yn dywedyd, "Gadewais fy nhŷ." Yr oedd yn amlwg fod gofid mawr arno o herwydd iselder crefydd. 'A ddaw yr Arglwydd eto yn ol i'w dy? ebai. Dywedais ei fod wedi addaw. 'Os yw wedi addaw,' ebai, y mae yn sicr o ddod; 'does dim doubt am hyny. Nerthed ni i ddysgwyl wrtho mewn ffydd.' 'Mae yn dda iawn genyf, meddai bryd arall, 'fod yn debyg i lawer dyn; ond bod yn debyg i Iesu Grist yw y gamp