Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ysbryd hyd y diwedd. Yr oedd cyfeillach ei frodyr yn ei sirioli a'i gynesu fwyfwy at bethau gwlad arall. Bu farw a'i bwys ar ei Anwylyd. Disgynodd i'w fedd yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, Chwefror 25, 1858, yn 84ain oed, wedi bod yn pregethu oddeutu triugain mlynedd.

MR. DAVID MORRIS, HENDRE

MAB ydoedd David Morris i John ac Ann Morris, Felin Glyphir, yn mhlwyf Llandebie. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1787. Ni chafodd ddim addysg grefyddol pan yn ieuanc, o herwydd yr oedd ei dad a'i fam yn hollol annuwiol y pryd hwnw. Ymroddodd gwrthddrych ein cofiant i ddylyn ffyrdd llygredig yr oes, a byddai yn ymladdwr heb ei fath. Nid oedd nemawr o neb trwy y fro a'i gorchfygai os cai chwareu teg; ond fe ddywedir nad oedd yn un ymhelgar os cail lonydd; ond os na chai, gorchfygu a wnai cyn ildio. Yn yr amser hwnw byddai arferiad gan bobl ieuainc y cymydogaethau, a llawer hefyd o wŷr priod, i fyned i gapel y Cross Inn ar ben y mis, boreu y Sabbath, ac oddiyno i'r dafarn, i dreulio gweddill y dydd santaidd yn ngwasanaeth y diafol. Byddai yntau yn gyffredin yn eu plith; ond ar ryw Sabbath, Sabbath a gofir byth am dano, aeth yno fel arfer gyda'r lluaws, er mwyn cael treulio gweddill y dydd yn ngwasanaeth ei feistr; ond pan oedd gweinidog y lle yn pregethu, sef y Parch.