Tudalen:Cerdd coffa Goleufryn.pdf/1

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XV, Rhif 87, 15 Hydref 1898, tudalen 184

GOLEUFRYN.

I.


OLEUFRYN—oedd ein cyfaill cu:
Ac O! mor chwith rhoi amlen ddu
I'w gerdyn coffa. Treuliodd ef
Ei oes dan weddnewidiad Nef.

II.


Bu llygad Cymru'n syllu'n syn
Ar heulwen Duw'n taenellu'r bryn;
Ac yn ei lewyrch rhodiai hi
Ymlaen i'w hetifeddiaeth gu.

III.


O fwyn Oleufryn! gennad hedd,—
Dy bregeth oedd yn felus wledd;
A'th ddawn fel gorfoleddol win
O windy Duw yn golchi'th fin.

IV.


O lenor hyfedr, coeth, a llawn;
A'th bin fel cledd o blaid yr iawn;
Ti holltaist ben Philistiaeth gwlad
A'i ffolinebau, pwy a wâd?

V.


Ti dreuliaist oes o lafur llwyr,
A gorffen wnest cyn gweled hwyr;
A phan gyrhaeddaist fin y glyn—
'Roedd goleu'r Nef yn llenwi'r bryn.

VI.


Mor hyfryd marw yn y dydd,
Dan ddisglaer weddnewidiad ffydd;
Mor hyfryd esgyn Pisgah oes—
A'r bryn yn wyn dan wawl y Groes.

VII.


Oleufryn fad, mewn gwlad ddi-glwy'
Ni welir haul yn machlud mwy;
Dy enw byth gaiff bara'r un—
O dan ganolddydd Duw ei Hun.

—JOHN T. JOB.
Y Carneddi, Medi 23ain, 1898.