Tudalen:Cerddi'r Bwthyn.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Gallai adroddwr da,—un yn medru tynnu darluniau â'i lais a'i ystum,—ennill calon cynulleidfa â'r sonedau hyn. Yn wir, darnau disgrifiadol o'r fath,—yn gofyn am amrywiadau priodol yng nghwmpas y llais,—yw meini prawf yr adroddwr. Pethau dychrynllyd o hawdd a beichus yw'r darnau fflamychol hynny na hawliant nemor ddim heblaw megin fel ysgyfaint bustach.

Gwn mai'r adroddwr sydd dan sylw yn awr, credaf y gellir addo iddo lawer o ddefnyddiau cyfaddas yn y gyfrol hon. Bu "Ffos y Clawdd" a detholiad o awdl "Y Ddrycin' (a enillodd wobr ariannol a medal aur Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926) yn brif ddarnau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd "Breuddwyd Glyndŵr" wobr sylweddol a gynigiwyd yn Eisteddfod Cymry Llundain am ddarn adrodd newydd. Disgrifiwyd y cyfansoddiad gan y beirniad, Dyfnallt, fel darn rhagorol a roddai gyfle i holl adnoddau yr adroddwr dramatig. Dyna "Di, Ddeddf," hefyd a "Murddun Hen Addoldy," heb sôn am ddarnau eraill.

Yn llys y cyhoedd, wrth gwrs, y rhoddir y farn derfynol ar werth y gyfrol o ran ei chynnwys. Cydnebydd y beirniad llymaf harddwch ei diwyg allanol; a mawr yw fy nyled i'r Cyhoeddwyr a gredodd ei bod yn haeddu gwisg orau'r argraffdy. Pan gofiwyf hynny a'u hir amynedd, hawdd yw maddau iddynt am beri imi roddi heibio'r enwair a glynu wrth fy ysgrifbin nes gorffen y gwaith.

DEWI EMRYS
Y Bwthyn,
Talgarreg, Llandysul
HYDREF, 1948