Fel fy nhaid, enaid uniawn, Â'i wên lwys a'i ydlan lawn, Unwedd y mynnwn innau Ado'r hendir wedi'r hau, Dwyn golud ei hen galon, Yr hedd sy'n tawelu bron, A throi'n fwyn dan addwyn nef I aeddfedrwydd fy hydref.