HIRAETH AM LANFAIR
Mesur—"Mary Blane"
Er cael pleserau o bob rhyw,
A byw mewn hufen byd;
Ni roddant imi fawr o hedd,
Ond gwagedd ynt i gyd:
Pa les i mi yw rhodio'n rhydd
Ar hyd y gwledydd glân!
Pa fodd y gwnaf ymlawenhau
A'm ffrindiau ar wahân?
Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i:
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd,
Os byth anghofiaf di.
Rhyw hudol fwyn hyfrydol fan
Yw'r llan ar fin y lli;
Melusol ydyw cwafriol gân
Hedyddion mân i mi:
O lawnder calon bronfraith lân
Gogleisgan ddiddan ddaw,
A pheraidd gwyn y fwyalch fwyn
O gwr y llwyn gerllaw;
Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di.
Rhoir clod i Lundain gain ei gwedd,
A'i mawredd yn mhob man;
Er hyny hoffwn fyw yn rhydd
A llonydd yn ein llan.
Cawn yno groesaw gan fy Mam,
Heb ofyn pam y dois;
Na'r achos imi droi yn ol
O siriol wlad y Sais.
Fy nghalon dirion lam o hyd &c,