Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mewn gynau pali cannaid
Gosgeiddig rodiai'r rhain,
A mentyll hir o sindal gwyrdd
Neu sidan gwineu cain.
Am wên y fun ifengaf
A glanaf yn y llys,
Ymdrechai y marchogion oll,
A hi oedd Nest ferch Rhys.
A'i gwallt fel blodau'r eithin,
A'i grudd fel gwrid y rhos,
A'i llygaid megis fflamau tân—
Gwae hi ei bod mor dlos!
A daeth i gae'r ymryson
Wŷr cedyrn llawer cad,
I brofi pwy o'u plith a geid
Yn ben cleddyfwr gwlad.
Daeth meibion ieuainc hefyd
I drin yr arfau dur,
A chaled fu'r ymryson rhwng
Yr hen a'r ieuainc wŷr.
I ganol y marchogion
Ar ganwelw farch y daeth
Rhyw farchog lluniaidd, ieuanc iawn,
A'i wayw a'i gledd a'i saeth.