Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gloyw arian oedd y tidau
A'r byclau ar ei seirch,
A gwych a digyffelyb oedd.
Ei farch ymysg y meirch.

Gwastraffwyd aur yn addurn
Ar hyd ei darian gref,
A llawer o gywreinwaith aur
Oedd ar ei ddurwisg ef.

Yng ngolau'r haul disgleiriai
Yr helm oedd am ei ben,
A'r ddraig oedd ar ei chopa hi
Yn dwyn tair pluen wen.

A'i baladr hir yn barod
Y dôi yn falch ei ffriw,
A meini gwyrth yng ngharn ei gledd
O lawer llun a lliw.

I'r gamp yr âi'r marchogion
Bob un â llawen floedd,
Ond gorau gŵr â'r paladr hir,
Y marchog ieuanc oedd.

Ar drin y cledd a'r bwa
Ymryson hir a fu,
Ond nid oedd ail i'r marchog gwyn
I'w gael ymhlith y llu.