Duw a ŵyr pa beth fu yno, Ac efô a farno'r cam,— Dygwyd Maelgwn, ond gadawyd Morgan yno gyda'i fam. Yno'r oedd y ddau yn oerion Pan dywynnodd bore wawr, A'r ddwy ffrwd o waed oedd wedi Ymgymysgu ar y llawr.