Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/7

Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

GAN fod y cerddi hyn allan o brint ers amser, a bod yn amhosibl i'r ysgolion a'r dosbarthiadau a fydd yn eu hymofyn gael copïau ohonynt, argreffir hwy ar eu pennau eu hunain fel hyn, mewn plygiad hwylus. Gadawyd allan ambell bennill dianghenraid, a dwy neu dair o gerddi o natur bersonol a argraffwyd eisoes mewn cyfrol neu gyfrolau eraill.