Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/111

Gwirwyd y dudalen hon

GUTO BENFELYN

GUTO benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt,
A aeth un diwrnod
I chwarae i'r tywod,
Yn ysgafn a llawen eu hynt—
Guto benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.

Hwy welsant y llongau yn mynd dros y tonnau,
A'u hwyliau yn chwarae'n y gwynt,
A llawer i wylan
Benchwiban yn hofran
A hedfan yn simsan ei hynt,—
A diwrnod i'w gofio oedd hwnnw i Guto,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.

Castell o dywod, a ffos yn ei waelod,
A'i faner yn chwifio'n y gwynt,
A chlawdd i'w amddiffyn
O wmon a chregyn
I atal y llanw, a hynt
Holl lengoedd y gelyn, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.