Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/119

Gwirwyd y dudalen hon

A heidio ar risiau y bwthyn a'r plas;
'Sgyrnygu eu dannedd ar fonedd a thlawd,
A bwyta eu bara, a d'wyno eu blawd;
A dryllio barilau
Mewn dyfnion selerau
Nes boddi o'r lloriau mewn cwrw a gwin.
Pa ryfedd bod newyn yn Llanfair-y-Llin?
Yn wir, nid oedd 'menyn
Na chosyn caws melyn
Na bara nac enllyn yn Llanfair-y-Llin:
Ond llygod mawr Pygddu
Yn rhythu a gwgu,
A phawb ar fin llwgu yn Llanfair-y-Llin!

III

Eisteddai y Cyngor yn Neuadd y Dref,
Mewn dygn anobaith, yn isel eu llef;
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w wneud,
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w ddweud,
Yn gwelwi, yn crynu wrth glywed rhu
A lleisiau bygythiol y dicllon lu
Oedd ogylch y Neuadd, yn dyrfa flin,
I fynnu gwell rheol yn Llanfair-y-Llin.
"Beth? Talu ein trethi i ffyliaid fel hyn,
A'u gwisgo mewn porffor a melyn a gwyn,
A hwythau yn methu ein gwared rhag pla
Y llygod sy'n ysu a difa ein da!"