Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/19

Gwirwyd y dudalen hon

Y LAMP

(WEDI TANCHWA GRESFORD:, MEDI, 1934)

FE ddeil y lamp ynghyn
Ar fwrdd y gegin lom,
A fflam fel gobaith gwyn
Drwy oriau'r hirnos drom.

Mae'r drws o led y pen,
Er oered gwynt y nos;
Pwy ŵyr na ddaw y llanc
Yn ôl cyn hir i'r Rhos?

"Mae'n gorwedd," meddai rhai,
"O dan y talcen glo
A'r fflam yn fur o dân
O gylch ei wely ô."

Ond, yn y bwthyn llwyd
Mae un o hyd a fynn
Ddisgwyl ar drothwy'r drws,
A chadw'r lamp ynghyn.