Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/21

Gwirwyd y dudalen hon

Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
I'r meysydd glas a'r goedlan werdd,
Ac yno eto byncio cerdd;
Dan hugan wen y ddraenen ddu
Cei wrando cân dy gymar cu,
A llechu'n dawel; ac fe chwyth
Awelon hwyrddydd dros dy nyth;
Cei deimlo'r plisgyn gwan yn rhoi
Odanat—tithau'n ymgyffrôi
Mewn melys ffwdan am fod un
Newyddanedig gwael ei lun
Yn mynnu, mynnu gwthio'i ben
Dan esmwyth blu dy fynwes wen;
A'th gymar balch â'i felyn big
Yn torri'r newydd drwy y wig.

Pob rhyw hyfrydwch a fedd llwyn
A fo dy ran, aderyn mwyn;
A chysgod yr adarwr hy
 gadwo 'mhell o'th ddeilog dŷ.

Paid, paid â chrynu yn fy llaw,
Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw,
Gwêl—mi agoraf lydan ddrws,
Dos dithau, dos, y bychan tlws.