Ni ddodaf lili wen, Na lluniaidd ddaffodil, Na rhosyn ar ei bedd, Ond ti, y bychan swil; Cei sisial yno wrth y gwynt, Mor bêr, mor dlos, mor fer fu'i hynt.