Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/72

Gwirwyd y dudalen hon

YR HEN DWM

UN garw yw Twm. A glywaist-ti Twm
Yn dweud fel y listiodd
Pan glywodd y drwm
Yn chwarae Gwŷr Harlech, a'r miri a'r row,
Ac yntau'n pendwmpian yng nghegin y Plow?

A gadael y pentre' a wnaeth yr hen Dwm,
Mewn gwisg o ysgarlad ar alwad y drwm;
Yng ngwledydd y dwyrain, yr Airt a'r Swdan,
Mewn llawer ysgarmes cymerodd ei ran.

O wersyll i wersyll â'i fidog a'i wn
Ymdeithiodd filltiroedd yn flin dan ei bwn,
Ei draed yn ddolurus, yn boenus ei gam,
Heb ddwr yn ei lestr, a'i dafod yn flam.

Dros lwybrau lle cerddodd ieuenctid y byd
Cyn siglo Assyria a'r Aifft yn eu crud,
A lledu y babell rhwng cyfnos a gwawr
Lle gynt y gorweddodd gwŷr Cyrus i lawr.