Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/74

Gwirwyd y dudalen hon

"At lawer nos Saboth yng nghanol yr ha',
A Mot yn fy ymyl a'i drwyn fel yr ia,
A'r clychau o'r pellter yn galw yn fwyn,
A ninnau yn loetran yng nghysgod y llwyn.

"Mi welais forynion llygad-ddu a llon
Yn dawnsio a chanu tu arall i'r don,
Lliw'r gwin ar eu gwefus, lliw'r mêl ar eu grudd,
A'u lleisiau fel dyfroedd rhedegog a chudd.

"Anghofiais," medd Twm, "holl ferched y Cwm,
Y Cyrnol a'r Serjiant
A galwad y drwm—
A chyda'r morynion a llanc o Gaerdydd
Y bûm ar ddisberod am lawer i ddydd."

"Fe'i cefaist yn drwm, 'r wy'n stor, yr hen Dwm."
"Do, do," meddai yntau,
"A bywyd go lwm
Mewn cell am rai dyddiau, a'm baeddu yn flin,
Am ddilyn hudoles y wefus o win.

"Mi welais yr Arab ar farch oedd yn gynt
Na fflachiad y fellten a rhuthr y gwynt,
Ar fintai gamelod yn plygu eu glin
Gerllaw y pydewau, yn llwythog a blin.