Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/90

Gwirwyd y dudalen hon

"Moes im fy arf," meddai'r Cymro dewr;
Ac yna'r dihiryn Sais,
O gysgod mur, a'i bicell ddur
A'i gwanodd ef dan ei ais.

A'n Pennaeth sydd yn y carchar prudd,
Yn rhwym hyd yr olaf wys;
A'i ddwyn o'i gell, ger Mortaigne bell,
Ni all yr un teyrn na llys.

Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law;
Pennaeth y Gad a Gobaith ei Wlad
I Gymru mwy ni ddaw.

A thrist yw'r gwyliwr ar y tŵr
A'r milwr ar y maes;
A swrth yw'r llongau yn y bae,
A'u hwyliau'n llwyd a llaes.

Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law,
Sy'n huno 'mhell, yn ei hirgul gell,
A'r llongau yn Harfleur draw.