PENNOD I
CERDDORIAETH DRADDODIADOL A'R TELYNORION
Y MAE hanes cynnar cerddoriaeth yng Nghymru mor niwlog ac annelwig nes ei bod yn amhosibl dywedyd i sicrwydd pa bryd y daeth ein halawon traddodiadol i fod. Yn wir, y mae'n amheus iawn a yw rhai o'r alawon yn ddilys, ac er honni bod llawer ohonynt yn aruthr hen, gan gynnwys y gân boblogaidd "Nos Calan," eto i gyd ni chafwyd hyd yma braw bod y ceinciau'n wirioneddol hen. Yn ei erthygl ar Gerddoriaeth Gymreig yng Ngeiriadur Grove, dywaid Frank Kitson, "Y mae'n resyn mawr na allwn olrhain, fesul cam, ddatblygiad yr Alawon Cymreig, fel y gallwn gyda cherddoriaeth yn Lloegr, drwy gyfrwng llyfrau print a llawysgrifau." Ond ceir tystiolaeth bod rhyw fath o ddiwylliant cerddorol i'w gael yng Nghymru, ganrifoedd yn ôl. Y mae'n drueni na ddaeth dim enghreifftiau ohono i lawr i ni y gellid eu cymharu â chynhyrchion gwledydd gwâr eraill yn yr un cyfnod. Dywaid Syr J. E. Lloyd, yntau, yn ei Lyfr Golwg ar Hanes Cymru (a gyfieithwyd gan y Dr. R. T. Jenkins), "Ni throsglwyddwyd hen gerddoriaeth yr Oesau Canol inni gyda'r un gofal na'r un anwyldeb â'i barddoniaeth. Felly, nid corff o 'weithiau cerddorol' ydyw ein hetifeddiaeth yn hyn o beth, ond rhyw hoffter greddfol o ganu, a chryn nifer o alawon gwerin syml-ond dirfawr eu hamrywiaeth a'u cyfoeth."
Er na thraddodwyd i ni ddim cerddoriaeth o waith cyfan- soddwyr Cymreig cynnar, yr ydym wedi etifeddu cyfoeth o alawon cenedlaethol a chanu gwerin y buasai unrhyw wlad yn falch ohonynt. Trosglwyddwyd yr etifeddiaeth yma inni trwy ysbrydiaeth a diwydrwydd yr hen delynorion Cymreig, y cawn sylwi arnynt yn y man. Eithr yn gyntaf, ystyriwn rai o nodweddion ein canu cenedlaethol.
Cynnyrch y bobl yw cerddoriaeth werin Cymru, fel pob gwlad arall. Ond y mae canu gwerin Cymru'n wahanol i ganu gwerin gwledydd eraill. Y mae iddo ei nodweddion arbennig ef ei hun. Crewyd y canu hwn am ei fod yn mynegi hoen a phoen y bobl gyffredin, wrth iddynt fynd a dod yn eu