John Parry, o Riwabon (Parri Ddall); Edward Jones (Bardd y Brenin) a John Parry (Bardd Alaw).
JOHN PARRY (Parri Ddall). Telynor Syr Watcyn Williams Wynn o Wynnstay oedd ef. Teithiodd John Parry ymhell. Clywn ei hanes yn cynnal cyngherddau yn Nulyn (1736), a Llundain (1746). Dywedir i Handel ei glywed yn canu'r delyn yn Llundain, a'i longyfarch ar ei fedr. Bu yng Nghaergrawnt, a chanodd y delyn i'r bardd Seisnig Gray, a hynny a'i hysbrydolodd ef i ysgrifennu "The Bard." Mewn llythyr at un o'i gyfeillion, disgrifia Gray'r amgylchiad fel hyn, "Mr. Parry has been here, and scratched out such ravishing blind harmony, such tunes of a thousand years old, enough to choke you." Yn ôl ei gyfoeswyr, yr oedd Parry'n delynor medrus. Adnabyddid ef fel "the celebrated blind harper." Trwyddo ef yr ail-ddechreuwyd defnyddio'r Delyn Deires Gymreig, a oedd wedi colli ei phoblogrwydd yn gyson, nes i athrylith Parry ail-gynnau diddordeb ynddi. Cyhoeddodd Parry ei Antient British Music of the Cambro-Britons yn 1742. Dyma'r casgliad cyntaf o alawon Cymreig a gyhoeddwyd erioed. Dilynwyd hwn gan gasgliad cyffelyb yn 1781 o dan y teitl Cambrian Harmony. Gwnaeth Parry waith gwerthfawr trwy gasglu a golygu'r alawon hyn, a gwnaeth hwy'n boblogaidd drwy ei ganu. Bu farw Parry yn Rhiwabon yn 1782.
EDWARD JONES (Bardd y Brenin) a ddaeth ar ôl Parri Ddall. Ganed ef yn Henblas, ffermdy yn Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn 1752. Daeth o deulu cerddgar, a'i dad a'i dysgodd i ganu'r delyn pan oedd yn blentyn. Yn 1775, symudodd i Lundain a daeth yn enwog yno oherwydd ei fedr i ganu'r delyn. Ond daliodd Edward Jones i garu alawon ei wlad, ac yn 1784 cyhoeddodd gasgliad o'r rhain o dan y teitl Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards. Ymddangosodd cyfrol arall yn 1802, sef The Bardic Museum, a gadawyd trydedd gyfrol heb ei chyhoeddi pan fu farw yn 1824. Yr oedd gan Edward Jones ddiddordeb arall heblaw alawon Cymru. Bu'n ddiwyd trwy'i oes yn casglu llyfrau prin ac anghyffredin, a gwerthwyd ei lyfrgell ar ôl iddo farw, am fil o bunnau, pris da yr adeg honno. Er na bu erioed yn fardd i'r brenin, ymddengys ei fod yn gymeradwy yn y llys, oherwydd penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, a bu ganddo swydd hefyd yn yr Office of the Robes ym Mhlas St. James. Gwnaeth waith gwerthfawr drwy ymchwilio i hanes alawon Cymru,