Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

a chyhoeddi llawer ohonynt. Bu'r Relicks a'r Bardic Museum yn gymorth mawr i'r rhai a fu'n gweithio ar ei ôl yn yr un maes.

Y telynor enwog arall a wasnaethodd gerddoriaeth Gymreig yn nechrau'r ganrif ddiwethaf oedd JOHN PARRY (Bardd Alaw). Ganed ef yn Ninbych yn 1776. Cafodd yrfa anturiaethus. Bu yn ei dro yn aelod o fand y Militia, yn arweinydd iddo, yn athro clarinet, yn canu'r fflageolet, ac yn gyfansoddwr, ymysg amryw o bethau eraill. Yn 1807, symudodd i Lundain, a chymaint oedd ei lwyddiant yno, nes iddo'n fuan iawn ysgrifennu caneuon ac unawdau ar gyfer Gerddi Vauxhall. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cerdd i'r cyngherddau adnabyddus hyn, a bu yno am amryw o flynyddoedd. Yn nyddiau ei ieuenctid yn Ninbych yr oedd wedi cyhoeddi dau gasgliad o alawon Cymreig i military band, a chasgliad arall (a gyflwynwyd i Syr Watcyn Williams Wynn), i ffliwt, sielo a thelyn. Ar ôl ymsefydlu yn Llundain, cyhoeddodd gyfrol arall o alawon Cymreig, ac ef ei hun, y mae'n debyg, a ysgrifennodd y geiriau Saesneg ar eu cyfer. Rhoes Cymdeithas y Gwyneddigion fedal aur iddo am y gwaith hwn. Y mae'r llythyr hwn o eiddo Parry yn egluro pa fath ddyn, a pha fath gerddor ydoedd: "Pan ddeuthum í Lundain, yr oedd gennyf bob peth i'w ddysgu ymron; felly ymroddais i astudio gyda'r amcan o droi fy ngwaith allan o'm dwylaw heb lawer o wallau amlwg ynddo. Nid wyf byth yn awr yn ceisio ehedeg uwchlaw fy ngallu, oherwydd yr wyf yn gwybod yn dda fod nifer o gerddorion yn rhodfeydd y gelfyddyd yn llawer mwy abl na mi i gynhyrchu cyfansoddiadau dysgedig. Yr wyf yn deall natur pob offeryn a ddefnyddir yn y gerddorfa; yr wyf yn ysgorio gyda rhwyddineb anghyffredin, a hyderaf yn weddol gywir. Yr wyf yn gwneud fy eithaf i fyned yn heddychol drwy'r byd mewn cyfeillgarwch â'm holl frodyr, yn ymyrraeth a neb, a gobeithiwyf, ddim yn dwyn ewyllys ddrwg ag un dyn."

Dyma brif weithiau Parry—Welsh Melodies yn dair cyfrol, y gyntaf yn 1822 gyda geiriau Saesneg gan Mrs. Hemans; yr ail yn 1823, gyda geiriau Saesneg o waith amryw awduron ; a'r drydedd yn 1829. Cyhoeddwyd ei gasgliad adnabyddus The Welsh Harper yn ddwy gyfrol (1839 a 1848). Cynnwys amryw o alawon a oedd eisoes wedi ymddangos yn Relicks of the Welsh Bards o waith Edward Jones, ond yr oedd gan Parry