lace (merch yr Arglwydd Byron) aeth yn fyfyriwr i'r Royal Academy of Music. Ar wahân i ganu'r delyn, cafodd wersi cyfansoddi gan Cipriani Potter, a fu unwaith yn ddisgybl i Beethoven. Bu Pencerdd Gwalia yn yr Academi am chwe blynedd. Yn ystod yr amser hwn, cyfansoddodd, ymysg pethau eraill, goncerto i delyn a cherddorfa. Yn ddiweddarach, aeth ar y cyfandir, a chanodd y delyn mewn cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, yr Eidal a Rwsia. Pan ddychwelodd i Lundain, ysgrifennodd goncerto arall i'r delyn, ac fe'i perfformiwyd yn un o gyngherddau'r Royal Philharmonic Society. Gwelir felly ei fod yn cael ei gyfrif yn un o delynorion gorau ei oes, ac yn 1871 penodwyd ef yn delynor i'r Frenhines Victoria. Daliodd y swydd hon hyd farw'r frenhines.
Treuliodd John Thomas yntau lawer o amser yn casglu a threfnu alawon Cymreig, ac ar ddydd Gŵyl Dewi, 1862, cyhoeddodd ei Songs of Wales yn ddwy gyfrol. Trefnwyd y rhain ar gyfer unawd a chôr cymysg, ac awdur y geiriau Cymraeg oedd Talhaiarn. Cafodd y gwaith hwn dderbyniad brwd ar ei union. Yn yr un flwyddyn fe gynhaliodd gyngherddau o alawon Cymreig yn neuadd St. James, Llundain, a hefyd yn y Crystal Palace. Penodwyd ef yn athro Canu'r Delyn yn y Royal Academy, ac yno cafodd lawer o ddisgyblion disglair a oedd yn ddyledus iawn iddo am eu hyfforddiant. Yn 1871 ffurfiodd gymdeithas gorawl. Fel canlyniad i'r cyngherddau a roddwyd, casglwyd £90 er mwyn sefydlu ysgoloriaeth o dair blynedd yn y Royal Academy. I blant rhieni Cymreig yn unig yr oedd yr ysgoloriaeth hon. Y gyntaf i'w hennill oedd Miss Mary Davies, a ddaeth yn un o gantorion mwyaf ei hoes, ac yn un o'r rhai a sefydlodd Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yn ddiweddarach casglodd Pencerdd Gwalia fil o bunnau. Gyda'r arian hwn, sefydlodd ysgoloriaeth "John Thomas," ac y mae myfyrwyr Cymreig hyd heddiw yn cystadlu amdani yn y Royal Academy of Music. Yr oedd Pencerdd Gwalia yn ffigur poblogaidd yn ein Heisteddfodau Cenedlaethol, fel datgeiniad ac fel beirniad. Darlithiai'n aml ar Gerddoriaeth Genedlaethol Cymru, pwnc a oedd o gryn ddiddordeb iddo.
Fel cyfansoddwr, yr oedd iddo lawer o allu technegol, a medrai ysgrifennu'n felodaidd ar brydiau. Ei brif weithiau yw'r gantata "Llewelyn," a gafodd gryn groeso pan berfformiwyd hi yn Eisteddfod Abertawe yn 1863; ac opera,