Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

llwyddiant ar ei union, ac erbyn 1863 yr oedd dwy fil ar bym- theg o gopïau wedi eu gwerthu. Gan iddo ddyfod i weled gwerth nodiant y Tonic Sol-ffa, cyhoeddodd argraffiad o'r gwaith yn y nodiant hwnnw yn 1864, ac Atodiad yn 1870. Nid oes amheuaeth nad yw'r Llyfr Tonau yn gasgliad rhagorol. Gwyddai Ieuan Gwyllt beth oedd tôn dda, ac fe welir hyn yn ei lyfr, er mai at y dôn urddasol a chlasurol (hynny yw y math Almaenaidd o dôn) y gogwyddai ef. Fodd bynnag, darfu i'w lyfr wella'n ddirfawr chwaeth gerddorol ymysg cynulleidfaoedd Cymreig.

Yn y cyfamser yr oedd wedi dechrau pregethu, a symudodd i Ferthyr. Yno y cyhoeddodd rifyn cyntaf y misolyn cerddorol Y Cerddor Cymreig yn 1861. Yn y dechrau cyhoeddodd y papur ar ei gost ei hun, ond ymhen pedair blynedd, cymerwyd ef drosodd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Ieuan Gwyllt oedd y golygydd, hyd 1873, pan beidiwyd â chyhoeddi'r papur oherwydd diffyg cefnogaeth. Cynnig arall oedd Cerddor y Tonic Sol-ffa a ymddangosodd yn gyntaf yn 1869. Ond daeth hwn yntau i ben yn 1874 am yr un rheswm. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn ysgrifennwr ac yn feirniad cerddorol galluog, fel y gwelir yn ei erthyglau yn y ddau gylchgrawn a nodwyd, a ysgrifennwyd bron yn gyfangwbl ganddo ef ei hun. Trwy gyfrwng y papurau hyn, gwnaeth waith gwerthfawr trwy gyhoeddi darnau o gerddoriaeth glasurol, a roes i gorau gwledig eu cyfle cyntaf i ymgydnabod â cherddoriaeth dda. Hefyd fe gynorthwyodd gyfansoddwyr Cymreig ieuainc drwy gyhoeddi eu gwaith yn y cylchgronau hyn, ac yr oedd ei feirniadaeth ar eu gwaith ac ar ganu corawl bob amser yn adeiladol a llawn cydymdeimlad.

Cafodd Ieuan Gwyllt ormod o'i ganmol fel cyfansoddwr. Yr oedd yn ddyfal a gweithgar, ond ysywaeth nid oedd ganddo athrylith gerddorol. Fel rheol y mae ei waith yn anystwyth ac yn anysbrydoledig, a mwy cydnaws oedd ei ddawn ag ysgrifennu ar gerddoriaeth nag â'i chreu. Gwnaeth waith da drwy gyfaddasu darnau clasurol, ac ysgrifennodd eiriau Cymraeg ar eu cyfer, eithr ni chenir heddiw ond ychydig o'i donau gwreiddiol ef ei hun. O'r rhain y mae "Liverpool," "Ardudwy," "Aberafon" a "Moab" yn parhau i afael mewn cynulleidfaoedd Cymreig. Yn wir, fe dybiai'r diweddar Syr Henry Hadow fod "Moab" ymysg y dwsin gorau o donau'r byd.