Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

Yn 1865 symudodd Ieuan Gwyllt o Ferthyr i Lanberis, lle y bu'n gofalu am Eglwys y Capel Coch, ond ymddiswyddodd o fod yn weinidog yn 1869, oherwydd mwy o waith gyda llenyddiaeth a cherddoriaeth. Yna aeth i fyw i'r Fron, ger Caernarfon, lle y bu farw yn 1877. Claddwyd ef yng Nghaeathro.

PENNOD III

CYFANSODDWYR CYNNAR

FEL yr awgrymwyd yn y bennod flaenorol, yn hwyr y dechreuodd y Cymry gyfansoddi, ac ni chafwyd dim mwy uchelgeisiol na thôn seml, cyn canol y ganrif ddiwethaf. Crybwyllwyd y ffaith hon gan y diweddar Dr. Vaughan Thomas yn ei anerchiad i Gymdeithas Cymrodorion Abertawe yn 1911, pan ddywedodd "na fu cyn oddeutu'r flwyddyn 1850 un cais o gwbl yn y Dywysogaeth at gyfansoddi cerddoriaeth o ddifri." Y mae'n debyg mai'r rheswm pennaf am hyn oedd mai ychydig o ymarfer cerddorol a geid drwy'r wlad, ac mai prin yr oedd pobl yn medru deall cerddoriaeth. Ond fel canlyniad i waith a dylanwad Alawydd, Rosser Beynon ac Ieuan Gwyllt yn dysgu'r bobl drwy gyfrwng eu dosbarthiadau, daeth y werin yn raddol i ymddiddori mewn celfyddyd a oedd yn apelio'n gryf at ei greddfau cynhenid. Efallai nad amherthnasol yw dywedyd mai cynnyrch y werin fu cerddoriaeth yng Nghymru erioed, fel y dengys poblogrwydd yr Eisteddfod a'r Gymanfa Ganu yn ddiweddarach.

Ond yr oedd llawer o rwystrau ar ffordd y cyfansoddwyr Cymreig cynnar. I ddechrau, nid oedd unrhyw draddodiad cerddorol yng Nghymru, nac unrhyw ysgol o gyfansoddwyr wedi rhoi eu bryd ar ddatblygu cerddoriaeth genedlaethol a rhoi mynegiant i'r athrylith a oedd yn nodweddiadol o'r Celt. Felly, nid oedd dim patrymau y gallai'n cyfansoddwyr eu dynwared. Heblaw hyn, yr oedd eu diffyg hyfforddiant technegol yn anfantais iddynt. Fel rheol, ni chawsent y fantais o gael eu hyfforddi'n drwyadl yng nghelfyddyd cyfansoddí