cerddoriaeth—mantais a oedd o fewn cyrraedd cyfansoddwyr gwledydd eraill. Bu'n rhaid iddynt eu dysgu eu hunain, a throi yn eu hunfan gan wneuthur y gorau o'r ychydig gyfleusterau a oedd wrth law. O ganlyniad, mewn dau gyfeiriad yn unig y datblygodd cerddoriaeth Gymreig, sef alawon cenedlaethol, a chaniadaeth y cysegr. O'r prif gyfansoddwyr a oedd yn ffynnu yr adeg yma, rhoes Brinley Richards ac Owain Alaw eu hamser i gasglu a threfnu alawon Cymreig, ac Ambrose Lloyd a Thanymarian yn troi eu hegnïon tuag at ddatblygu caniadaeth y cysegr. Gan fod bywydau'r pedwar cyfansoddwr hyn yn dangos cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru yn eu dydd, rhown yn awr ychydig o'u hanes.
Ganed BRINLEY RICHARDS yng Nghaerfyrddin yn 1819, lle yr oedd ei dad yn organydd yn Eglwys Sant Pedr. Bwriadwyd gwneuthur Brinley yn feddyg, ond rhoddwyd y gorau i'r syniad hwn pan welwyd mor hoff oedd y bachgen o gerddoriaeth. Gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun pan enillodd y wobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Gwent a Dyfed a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1834. Cyfres o amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn" oedd y darn buddugol. Aeddfedodd ei ddawn i ganu'r piano pan oedd yn bur ieuanc, ac fe ddaeth trobwynt ei yrfa pan glywodd Dug Newcastle ef wrth y gwaith. Gwnaeth y fath argraff ar y Dug, nes peri iddo dalu am wersi piano i'r bachgen yn y Royal Academy of Music. Yma enillodd Brinley Richards Ysgoloriaeth y Brenin ddwywaith—y tro cyntaf yn 1834, a thrachefn yn 1837. Ar ddiwedd ei yrfa yn yr Academi aeth i Baris i orffen ei addysg gerddorol. Yma y cyfarfu â'r pianydd a'r cyfansoddwr enwog, Chopin, ac fe dyfodd cyfeillgarwch rhyngddynt a barodd hyd farw Chopin. Pan ddychwelodd Brinley Richards i Lundain, penodwyd ef yn athro piano yn y Royal Academy of Music, ac iddo ef yn bennaf y mae'n rhaid diolch am ddarfod cynnwys Cymru yng nghyfundrefn arholiadau'r Academi.
Yn y cyfamser bu'n cyfansoddi, yn bennaf ar gyfer ei hoff offeryn, y piano. Bu hefyd yn feirniad poblogaidd am lawer blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n darlithio drwy Gymru gyfan ar bwnc a oedd o gryn ddiddordeb iddo, sef Cerddoriaeth Gymreig. Yn Eisteddfod Caernarfon, 1862, gofynnodd Ceiriog iddo ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer telyneg a oedd wedi ei hysgrifennu i ddathlu priodas Tywysog Cymru yn y dyfodol agos. Cydsyniodd Brinley