Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

Richards, a'r canlyniad oedd y gân boblogaidd "Ar D'wysog Gwlad y Bryniau." Canwyd y gân am y tro cyntaf gan Sims Reeves, a buan iawn y daeth yn adnabyddus, oherwydd ei chanu gan gorau a chantorion ym mhob rhan o'r wlad.

Yn ôl pob tebyg, Brinley Richards oedd y pianydd mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed, ac yr oedd ei enw wedi cyrraedd ymhell y tu hwnt i'r gororau. Ond ni bu'n llwyddiannus fel cyfansoddwr, ac er iddo gyfansoddi nifer mawr o ddarnau, ni chenir ond ychydig ohonynt heddiw. Y goreuon yw "Ar D'wysog Gwlad y Bryniau" a'r rhangan swynol sy'n haeddu cael ei chlywed yn amlach, "Cwyd Rian Lwys." Ei brif gymwynas â cherddoriaeth oedd ei gasgliad o alawon The Songs of Wales a gyhoeddwyd yn 1873. Dyma'r llyfr mwyaf poblogaidd o alawon gwerin a gyhoeddwyd erioed. Canmolir ef am y trefniadau syml ac artistig i'r alawon, ac am y geiriau Cymraeg gan Geiriog. Y mae rhai o'r rhain ymysg y gorau a ysgrifennodd. Bu farw Brinley Richards yn Llundain yn 1885, a chladdwyd ef yno ym mynwent Brompton.

Ganed JOHN OWEN (Owain Alaw) yng Nghaer yn 1821. Rhai o Lanfachreth, Sir Feirionnydd, oedd ei rieni. Capten ar long hwyliau fechan oedd ei dad, ac fe gollodd ei fywyd ar y môr yn 1837. Cafodd ei fab addysg dda pan oedd yn blentyn, ac nid esgeuluswyd cerddoriaeth, pwnc a oedd yn arbennig o hoff ganddo. Yn ddiweddarach, cafodd wersi mewn cerddoriaeth gan Charles Lucas o Lundain. Nid oedd ym mwriad ei rieni wneuthur y bachgen yn gerddor proffesedig, ar y dechrau, a phrentisiwyd ef gyda gwerthwr cyllyll yng Nghaer. Ond wedi peth llwyddiant fel organydd ac athro cerdd, troes yn gerddor wrth ei alwedigaeth yn 1844. Bu'n organydd mewn llawer o eglwysi Caer yn eu tro, a thua diwedd ei oes daeth yn organydd yr Eglwys Gymreig yno, swydd y bu ynddi hyd ei farw yn 1883.

Enillodd aml wobr mewn eisteddfodau fel cyfansoddwr. Yn 1857 rhoes Dr. S. S. Wesley y wobr gyntaf iddo yn Eisteddfod Rhuddlan, am ei anthem "Cân Deborah a Barac." Yma y cafodd yr enw barddol "Owain Alaw." Oherwydd clod Wesley iddo y pryd hwn cafodd le blaenllaw ymysg cyfansoddwyr Cymreig. Yn Eisteddfod Madog yn yr un flwyddyn, yr oedd yn gyd-fuddugol ag Ambrose Lloyd â'i gantawd "Gweddi Habacuc." Fel hyn y dywaid Ieuan Gwyllt am y gystadleuaeth yn Y Cerddor Cymreig: "Rhoddai'r ddau Gym-