mysg W. T. Best, a ddaeth yn organydd enwog ymhen rhai blynyddoedd wedyn. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Gorawl Gymreig Lerpwl yn 1846, penodwyd Ambrose Lloyd yn arweinydd iddi, a bu yn y swydd hon nes gadael Lerpwl yn 1851.
Cyhoeddwyd ei gantata "Cwymp Babilon" yn 1848. Yn yr un flwyddyn, ymddiswyddodd o'r Mechanic Institute. Wedyn, fe ymgeisiodd am amryw o swyddi, ond yn aflwyddiannus. Yn y diwedd, cafodd waith fel trafeiliwr dros gwmni'r Meistri Woodhall a Jones, a oedd yn gwerthu te yng Ngogledd Cymru. Arhosodd gyda'r cwmni hwn am weddill ei oes. Yn ystod yr amser hwn bu'n byw ym Mwlch Bach, yn ymyl Conwy, yna yng Nghaer, ac yn olaf symudodd i'r Rhyl, yn 1864. Ym Mwlch Bach y cyfansoddodd ei gampwaith "Teyrnasoedd y Ddaear." Enillodd hwn y wobr yn Eisteddfod Bethesda yn 1850. Y Parchedig J. D. Edwards a Thanymarian oedd y beirniaid. Dywedodd Tanymarian yn ei feirniadaeth—"Y mae rhywbeth ynddo i'r anghyfarwydd ac i'r cyfarwydd. Y mae gwychder y cysegr yn llanw pob nodyn." Ei waith pwysig diwethaf oedd Aberth Moliant, casgliad gwych o donau ac emynau, a gyhoeddwyd yn 1873, flwyddyn cyn ei farw. Bu Gwilym Hiraethog ac Emrys yn ei gynorthwyo i ddewis yr emynau. Yr oedd yn y llyfr hwn 344 o donau, 47 ohonynt o waith Ambrose Lloyd ei hun. Pallodd ei iechyd yn raddol ym mlynyddoedd olaf ei oes, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith fel trafeiliwr. Cynghorwyd ef i fynd ar fordaith hir, er mwyn ei iechyd, ac yn Hydref, 1874, aeth ar daith i'r Aifft. Ar y ffordd adref gwaethygodd yn gyflym a bu farw ychydig ddyddiau ar ôl glanio yn Lerpwl. Fe'i claddwyd yno ym mynwent y Necropolis. Am flynyddoedd ar ôl ei farw, nid oedd llawer o ganu ar ei waith, ond daethant yn fwy poblogaidd fel yr âi'r amser heibio.
Yn ddiau, Ambrose Lloyd oedd un o'r cyfansoddwyr Cymreig gorau. Ar ryw ystyr, ef yw'r gorau ohonynt oll. Arferai'r Dr. Joseph Parry ddywedyd mai ef oedd awdur y dôn Gymreig orau—"Eifionydd"; y rhangan Gymreig orau— "Y Blodeuyn Olaf"; a'r anthem Gymreig orau—"Teyrnasoedd y Ddaear." Gwnaeth Ambrose Lloyd ei wasanaeth mwyaf ym myd cerddoriaeth y cysegr. Cyn ei amser ef, yr oedd tonau ac anthemau yn anghelfydd ac anaeddfed. Er mai amateur hunan-ddysgedig ydoedd, cyfoethogodd gerddoriaeth