Yr Eisteddfod a Chyfnod y Ganig cynganeddol dro ar ôl tro yn ei gyfansoddiadau. Y diffyg hunan-feirniadaeth hwn sy'n peri bod ei arddull yn amrwd ac aflêr, ac yn ddiau, amharodd hyn ar ei boblogrwydd erbyn heddiw.
Yr oedd gyrfa JOHN THOMAS (Blaenannerch) a'r eiddo DAVID LEWIS (Llanrhystyd) yn debyg i'w gilydd ar lawer ystyr. Daeth y ddau o Sir Aberteifi a byw bywyd tawel a di-ddigwydd, a bu hoffter y ddau o gerddoriaeth yn sylfaen cyfeillgarwch a barodd hyd ddiwedd eu hoes. Ar ffurf y ganig y bu eu hymdrechion cyntaf i gyfansoddi cerddoriaeth, ac yr oedd eu gwaith yn adlewyrchu bywyd y wlad yng Nghym- ru y pryd hwnnw. Wrth wrando ar y canigion hyn, cawn gipolwg ar fythynnod gwyngalchog Sir Aberteifi, a chlywn furmur tyner y nentydd a red i Fae Ceredigion. Yn ddiwedd- arach, fe ddylanwadodd y Gymanfa (a ddeuai'n fwy poblog- aidd o hyd) ar y cyfansoddwyr hyn, a dechreuasant ysgrifennu tonau. Dyma hoff bwnc arall i gystadleuwyr eisteddfodol, ac mewn cystadleuaeth cyfansoddi tôn yr oedd David Lewis yn ymgeisydd peryglus. Enillodd lawer gwobr gyda'i donau ; yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1863) fe enillodd ddwy wobr, yn Llandudno (1864) dair gwobr, yn Aberystwyth (1865) ac Aberdâr (1868) ddwy wobr.
Ganed David Lewis yn Llanrhystyd yn 1828, lle yr oedd ei dad yn deiliwr. Dilynodd Dafydd grefft ei dad, ac ar wahân i ambell daith i Lundain neu i ryw eisteddfod, arhosodd ar hyd ei oes yn ei fro enedigol, lle y bu farw yn 1908. Ni chenir mo'i ganigion na'i ranganau heddiw, ond yr oeddynt yn rhan bwysig o stoc corau Cymru tua'r adeg yr ysgrifennwyd hwy. Yr oedd un ohonynt, "Trewch y Tant," yn boblogaidd iawn. Ond ei donau a'i gwnaeth yn enwog, ac nid oes ond ychydig o lyfrau emynau nad yw'n cynnwys enghreifftiau o'i waith. Dywaid Emlyn Evans fel hyn am arddull David Lewis (Y Cerddor 1908): "Ni bydd yn treiddio'n isel iawn i'r dyfnderau nac yn esgyn fry i'r uchelderau hwyrach; ond y mae bob amser yn syml, melodus a diorchest; y gynghanedd yn llyfn a chyfoethog; a'r holl gyfanwaith yn neilltuol o ddillyn a gorffenedig.'
Ganed John Thomas ym Mlaenannerch yn 1839. Yr oedd yn well cerddor na David Lewis, ac yn fwy llwyddiannus fel ysgrifennwr canigion a rhanganau. Y mae "Nant y Mynydd," "Mai" a "Gymru Anwylaf" yn dangos mor swynol