Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

Buasai'n anodd canmol gormod ar ei wasanaeth i gerddor- iaeth yng Nghymru. Cyfansoddodd amryw o weithiau pwysig, megis ei ddwy gantata, "Y Tylwyth Teg" a "Gweddi'r Crist- ion" (gosodiad o Weddi'r Arglwydd). Hefyd fe gyfansoddodd oratorio uchelgeisiol, "Y Caethgludiad," a nifer mawr o ganeuon, canigion, rhanganau, anthemau a thonau.

Y mae ei gyfansoddiadau lleisiol yn llawn o alawon swynol, ac y mae gwead y gwahanol leisiau'n hynod o glir, ond yn y rhan fwyaf o'i waith, hawdd yw canfod ei edmygedd o Mendel- ssohn. Pery llawer o'i gyfansoddiadau'n boblogaidd o hyd, yn arbennig ei rangan wych "How sweet the moonlight sleeps," ei ganig "Y Gwanwyn," yr anthem fer ond swynol "Eisteddai teithiwr blin," a nifer mawr o donau rhagorol. Cymerth ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth genedl- aethol Cymru, ac yn ôl pob tebyg, gwyddai fwy amdani nag unrhyw Gymro arall. Ymdrechodd yn galed i ennyn diddor- deb ei gydwladwyr yn y math yma o gerddoriaeth, drwy ysgrifennu amdano, a hefyd drwy drefnu llawer iawn o'r alawon. Cafodd hwyl ar y trefniadau hyn, ac fe haeddant fwy o sylw nag a gawsant. Hefyd, gwnaeth waith gwych fel ysgrifennwr a beirniad. Bu'n un o olygyddion Y Cerddor o 1889 hyd ei farw yn 1913, a bu'n ohebydd i'r Musical Times ac yn ohebydd cerdd i'r South Wales Weekly News am flyn- yddoedd. Fel beirniad yr oedd yn un o'r rhai gorau a wel- odd Cymru erioed. Rhôi gerydd lle y dylai fod, ac yr oedd yr un mor barod i roddi clod i'r sawl a'i haeddai. Er nad oedd ei iechyd yn dda, yr oedd bob amser yn siriol, ac yr oedd gan- ddo synnwyr digrifwch eithriadol, a chryn ffraethineb. Ac eithrio Joseph Parry, ef oedd y dylanwad cryfaf ar gerddoriaeth Cymru yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Bu'n sym- byliad i'w gydwladwyr mewn cyfansoddi a beirniadu, ac fel ysgrifennwr doeth ar gerddoriaeth.

JOSEPH PARRY oedd un o gydoeswyr Emlyn Evans, ac fel cyfansoddwr canig y dechreuodd yntau. Ei bersonol- iaeth gyforiog ef a fu'n ysbrydoli cerddoriaeth Cymru hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Ganed ef o deulu cyffredin ym Merthyr yn 1841. Un o Sir Benfro oedd ei dad, ac un o ferched Sir Gaerfyrddin oedd ei fam. Yr oedd hi'n perthyn o bell i Henry Richard-"Apostol Heddwch." Gwraig alluog ydoedd, yn angerddol hoff o gerddoriaeth. Yn y ped- war degau, Merthyr oedd y dref fwyaf cerddorol yn Neheudir