gerddorol. Yn anffodus, bu farw'n ieuanc, a rhoed terfyn ar yrfa addawol.
Heb amheuaeth, Joseph Parry oedd cyfansoddwr Cymreig mwyaf poblogaidd ei oes, efallai pob oes. Yr oedd yn gyfan- soddwr toreithiog. Ymysg ei weithiau, ceir amryw o operâu, oratorïau, symffonïau, cantatau, corawdau, rhanganau, caneuon, anthemau a thonau. O'r operâu, "Blodwen" yw'r fwyaf poblogaidd. Fe'i perfformiwyd gannoedd o weithiau yn ystod oes yr awdur, a gellir ei chlywed weithiau heddiw. Ni chenir ei oratorïau yn awr. "Emmanuel" a "Saul of Tarsus" (1892) yw'r prif rai. Prin y cafodd yr un o'i gyfansoddiadau ar gyfer cerddorfa fwy nag un perfformiad, ac aethant yn angof ers talm. Er iddo feistroli techneg ysgrifennu cerddoriaeth, nid oedd Joseph Parry yn gyfansoddwr mawr. Nid oedd ganddo syniadau gwreiddiol ac yr oedd ôl dylanwad cyfansoddwyr poblogaidd y dydd yn rhy drwm ar ei waith. Yn ei oratorïau, dilynodd draddodiad Handel, a Mendelssohn, ac nid yw ei operâu'n ddim ond dynwarediadau tila o Rossini, a gweithiau cynnar Verdi. Nid oedd ganddo'r ddawn i'w feirniadu ei hun, ac fe ysgrifennodd ormod, a hynny'n rhy hawdd. Fel y dywedodd Alaw Ddu, "Pe buasai wedi cyfansoddi llai, buasai wedi cynhyrchu mwy." Benthyciodd lawer gan ei hoff gyfansoddwyr, a cheir digon o enghreifftiau o hyn yn ei waith. Y mae'n ddiamau iddo ddioddef oddi wrth arwr-addoliaeth ei lu edmygwyr. Derbynient hwy bob un o'i gyfansoddiadau newydd fel pe bai'n gampwaith. Nid oedd llwyddiant rhad o'r math hwn yn ddim lles i ddyn o'i natur ef, ac fe gafodd effaith drwg ar ansawdd ei waith. Ond er gwaethaf y gwendidau hyn, cafodd ddylanwad aruthrol, er da ac er drwg, ar gerddoriaeth Cymru yn ystod chwarter olaf y ganrif. Heddiw, cofir ef yn unig fel cyfansoddwr ychydig o ranganau swynol, a nifer o donau ardderchog, ac ymysg y rhain, y mae "Aberystwyth" ar ei phen ei hun.
DAVID JENKINS. Er na ellir ystyried David Jenkins yn un o gyfansoddwyr y ganig, credaf mai addas fuasai sôn am ei yrfa yn y fan hon, gan mai ef, o holl ddisgyblion Joseph Parry, a ddilynodd ôl troed ei feistr yn fwyaf ffyddlon. Ganed David Jenkins yn Nhrecastell, Sir Frycheiniog, yn 1848. Tlawd oedd ei rieni, ond er gwaethaf anfanteision ym more ei oes, llwyddodd i ddysgu tipyn go lew o gerddoriaeth, yn