PENNOD V
Y GYMANFA A'R EISTEDDFOD
YN y bennod flaenorol, buom yn dilyn hanes cerddoriaeth yng Nghymru hyd ddiwedd cyfnod y ganig, gan orffen gyda Joseph Parry a David Jenkins, er nad oedd y ddau yma, mewn gwirionedd, yn perthyn i'r canigwyr. Cyn myned at y cyfansoddwyr a ddaeth ar ôl hyn, fe weddai inni roddi trem yn ôl er mwyn archwilio cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru yn ystod deugain mlynedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bu llawer o bethau'n dylanwadu ar dwf cerddoriaeth Cymru yn y cyfnod hwn. Y rhai pwysicaf ohonynt oedd (a) cychwyn y Gymanfa Ganu; (b) twf yr Eisteddfod fel sefydliad cerddorol; (c) bri cynyddol canu corawl. Perthynai'r olaf yn agos iawn i'r ddau fudiad cyntaf, ac oherwydd rhoddi lle mor amlwg i ganu lleisiol, esgeulusid canu offerynnol.
Yr oedd y Gymanfa Ganu'n rhwym o lwyddo, o'r cychwyn cyntaf. Dyma sefydliad a gafodd bopeth o'i blaid, oherwydd fe apeliodd at reddfau crefyddol a cherddorol y Cymry. Heblaw hyn, yr oedd tuedd ein cyfansoddwyr i ysgrifennu tonau ac anthemau yn peri bod gan gorau a chynulleidfaoedd ddigon o'r math o gerddoriaeth a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Wedyn, yr oedd y teimladau crefyddol dwys a roed ar dân gan Ddiwygiad 1859 yn ei gwneuthur yn beth hawdd i Ieuan Gwyllt, Tanymarian, ac eraill, sefydlu'r Gymanfa fel dylanwad cryf ym mywydau'r bobl. Gwnaed hyn yn haws fyth, am fod y ddau hyn yn bregethwyr a darlithwyr poblogaidd yn ogystal â cherddorion. Yr oedd gan arweinwyr eraill y mudiad hwythau gyswllt agos â chrefydd. Offeiriad oedd Eos Llechid, ac yr oedd Ambrose Lloyd a Rosser Beynon hefyd yn ddynion tra chrefyddol ac yn arweinyddion canu mewn capelau. Dylid pwysleisio hyn, er mwyn dangos bod ochr grefyddol y Gymanfa mor bwysig â'r ochr gerddorol. Enillodd y Gymanfa lawer trwy ei chyswllt â phrif gerddorion y dydd, a diogel dywedyd na bu safon y Gymanfa erioed yn uwch nag yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif ddiwethaf, a hynny oherwydd cyfraniad y cerddorion talentog hyn, a roes lawer o'u hamser iddi. Trwy'r gymanfa, codwyd safon ein canu cynulleidfaol, a gallwn ymfalchio ynddo. Ond rhaid