peth drwg oedd hyn i ganu corawl Cymru, oherwydd daeth ennill gwobrau yn bwysicach peth na pherfformio'r gerddoriaeth yn gain. Aeth corau yn rhy fawr ac afrosgo i ganu darnau ysgeifn fel "Y Gwlithyn" ac "Yr Haf," felly yr oedd yn rhaid cael darnau addas i gorau mawr. Tyfodd corau bychain y capelau yn gorau "Ardal," a chyn hir ffurfiwyd "Undebau Corawl" a gynhwysai ardaloedd eang fel Cwm Tawe neu Gwm Rhondda. Daeth uchafbwynt y tyfiant yma pan ffurfiwyd yr enwog Gôr Caradog yn cynnwys pedwar cant a hanner o leisiau wedi eu dewis o holl Ddeheudir Cymru.
Gwelir felly fod y llwyfan yn barod ar gyfer dyfodiad Handel. Yr oedd Handel yn gyfansoddwr mor fawr, a chanddo ddawn mor eithriadol i ysgrifennu cerddoriaeth gysegredig, nes iddo ar fyr o dro ennill Cymru. Yn chwithig braidd, daeth ei olynwyr gynt, Ambrose Lloyd, Tanymarian a Joseph Parry, ymhen amser yn rhagflaenwyr iddo, ac yr oedd eu dynwarediadau caeth o'r arddull Handelaidd yn paratoi'r ffordd i'r meistr. Yr oedd Ieuan Gwyllt yntau'n edmygwr mawr of Handel, ac fe ychwanegodd at ei fri drwy ei erthyglau yn Y Cerddor, a hefyd drwy gyhoeddi rhai o'r cytganau mwyaf poblogaidd o waith Handel, gyda geiriau Cymraeg.
Y mae'n ddiddorol darganfod y rhesymau am boblogrwydd aruthrol Handel yng Nghymru-a bery'n ddi-drai hyd heddiw. Awgrymais un neu ddau o resymau eisoes, ond ceir rhesymau eraill hefyd. Yr oedd yr addysg a gafodd Handel yn yr Eidal wedi dangos iddo sut i ysgrifennu'n lleisiol a dramatig ar gyfer corau, ac yr oedd ei athrylith yn y cyfeiriad hwn yn apelio'n gryf at gorau a chynulleidfaoedd Cymreig, a theimlent hwy iasau yn ei gorawdau aruchel. Heblaw hyn, yr oedd ei oratorïau yn amlwg yn gerddoriaeth gysegredig, ac felly yn unol â'r traddodiad Cymreig. Felly yn wir yr ystyrid hyd yn oed y cytganau'n disgrifio aberthau gwaedlyd y paganiaid. Cynhelid yr ysgol gân fel rheol ar y Sul, ac yr oedd canu cerddoriaeth gysegredig yn anhepgor, ac felly'n cloi'n addas brofiadau crefyddol y Saboth. Beth a wnâi'n well, felly, na chytgan allan o oratorio gan Handel, yn gyforiog o "Amenau" a "Haleliwiau"? Yn olaf, fe hyrwyddwyd y bri hwn ar Handel oherwydd mai ei gorawdau ef oedd y rhan fwyaf o'r pethau a gyhoeddwyd gyntaf mewn tonic sol-ffa. Ni allai'r corau mawr ddysgu dim ond cerddoriaeth a gyhoeddwyd yn y nodiant hwn, a phan ychwanegwn y ffaith ddarfod i bwyll-