am hyn oedd ei natur swil, ddiymhongar. Sut bynnag, pur siomedig, ar y cyfan, oedd ei yrfa yno, ac ar ôl cyfnod braidd yn ddi-nod, treuliodd ychydig o amser ym Mangor fel dirprwy i'r Dr. Rogers yn yr Eglwys Gadeiriol.
Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth ymsefydlodd fel cyfeilydd a chyfansoddwr caneuon. Yr oedd ei gân gyntaf, "Wyt ti'n cofio'r lloer yn codi," yn llwyddiant mawr, a dilynwyd hi gan ei gân orau, yn ôl pob tebyg, sef "Y Golomen Wen." Yn ddiweddarach, rhoes gynnig ar Lundain unwaith eto, ac ar ôl cyfnod siomedig arall, penodwyd ef yn organydd i un o'r Eglwysi Cymraeg yno. Yn Llundain, cyfansoddodd amryw o ganeuon a ddaeth yn boblogaidd iawn; yn eu mysg yr oedd "Y Dymhestl" a "Llam y Cariadau." Ar ôl ysbaid, troes at ffurf boblogaidd y faled, ac fe ysgrifennodd lawer o ganeuon o'r math hwn, gan gynnwys "Bwthyn bach melyn fy nhad" ac "Elen Fwyn." Cyfansoddodd donau hefyd, ac anthemau a rhanganau, ond nid oedd y rhain gystal â'i ganeuon; er y mae'n rhaid cyfaddef bod un o'i anthemau, "Wel, f'enaid, dos ymlaen," yn weddol lwyddiannus. Eithr cyfansoddwr caneuon, yn anad dim, ydoedd; pan nad oedd wrth y piano, yr oedd allan o'i elfen, ac fe gollai ysbrydiaeth yr offeryn. Dywedir nad oedd ganddo wybodaeth eang o gynghanedd, a dim ond ychydig o wybodaeth am wrthbwynt a ffiwg. Cyt- una hyn a'i brofiad fel myfyriwr yn yr R.A.M. Ymddengys iddo geisio cyfansoddi pethau mwy uchelgeisiol, unwaith neu ddwy. Gorffennodd gantata, "Bugeiliaid Bethlehem," a phedwarawd llinynnol a enillodd y brif wobr yn Eisteddfod. Genedlaethol Wrecsam yn 1876, pan gafodd glod uchel gan Syr Julius Benedict. Y mae'n werth sylwi ddarfod iddo drefnu sgôr llais a phiano "Dafydd a Saul" o waith David Jenkins. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes fel organydd ym Methesda, lle y bu farw yn 1893.
Ganed WILLIAM DAVIES yn Rhosllannerchrugog yn 1859. Hoffai gerddoriaeth er pan oedd yn blentyn, a bu'n canu mewn un neu ddau o'r corau lleol, gan ddarllen o'r nodiant sol-ffa. Erbyn iddo gyrraedd deunaw oed, yr oedd wedi datblygu llais tenor da, ac mewn eisteddfod yn y Rhos enillodd y wobr gyntaf. Joseph Parry oedd y beirniad, a gwnaeth canu William Davies y fath argraff arno nes iddo awgrymu yn y fan a'r lle i bobl y Rhos hel arian i roddi ychwaneg o addysg gerddorol i'r bachgen, a'i gynorthwyo i wneuthur