canu'n fywoliaeth iddo. Casglwyd cronfa, ac fe aeth William Davies i goleg Aberystwyth yn ddisgybl i Parry. Ar ôl gorffen ei gwrs yn y coleg, aeth i Langefni yn athro canu, ond wedi rhai blynyddoedd yno, penodwyd ef yn unawdydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Yno, bu'n canlyn ymlaen i astudio cerddoriaeth (o dan y Dr. Rogers, yr organydd) a chyn hir dechreuodd gyfansoddi caneuon. "Llwybr yr Wyddfa" oedd y gân nodedig gyntaf o'r eiddo ef, a daeth yn un o hoff ganeuon Eos Morlais. Dilynodd y gân hon yr un traddodiad â "Bedd Llywelyn" gydag adroddgan ar ei dechrau. Cân arall a gyfansoddwyd ym Mangor oedd yr un adnabyddus "O na byddai'n haf o hyd." Yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1886 y cafodd ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf fel cyfansoddwr, pan enillodd y wobr gyda'i gân, "Neges y Blodeuyn." O hynny ymlaen bu'n ennill yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd yn Llundain (1887), Wrecsam (1888, gydag "O na byddai'n haf o hyd"), ac yn Aberhonddu yn 1889 cafodd wobr arbennig o ugain punt am set o bedair cân-un i bob llais. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn unawdydd tenor yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Arhosodd yma hyd 1894, pan dderbyniodd swydd gyffelyb yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, yn Llundain.
Bu William Davies yn boblogaidd fel beirniad a chanwr, ond fel cyfansoddwr caneuon y cofiwn ni ef. Gadawodd ar ei ôl nifer mawr o ganeuon gwych. Y mae ei alawon yn ddelfrydol i'r llais, a'r cyfeiliant bob tro yn gerddorol ac artistig. Yn sicr, yr oedd ymysg y mwyaf o'n cyfansoddwyr caneuon. Bu farw yn Llundain yn 1907.
Ond ni ddarfu'r gân Gymreig gyda William Davies. Er pan fu farw, newidiodd ei hansawdd yn fawr. Y mae wedi cynyddu gymaint yn y dull modern, nes teimlo ohonom fod y caneuon gorau eto i ddyfod. Wrth olrhain ei datblygiad, sylwn ar ddau newid pwysig: (a) Aeth cyfansoddwyr yn fwy gofalus wrth ddewis geiriau; (b) daeth y cyfeiliant yn rhan bwysig a hanfodol o'r gân, gan ychwanegu at fynegiant y geiriau. Fel y daeth gwell cyfleusterau i gael addysg gerddorol, rhoddodd cyfansoddwyr fwy o sylw i gerddoriaeth offerynnol, ac o'r herwydd ehangwyd eu gwybodaeth dechnegol gan wella'n ddirfawr ansawdd y gân hithau.
Y mae'n beth rhyfedd braidd na ddatblygodd ffurf nodweddiadol Gymreig ar y gân yng Nghymru, ffurf yn deillio