Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

wyth degau, ac ar ôl yr amser hwnnw hyd heddiw, y mae cyfansoddwyr caneuon yn ddyledus iawn i'r Eisteddfod am ei chefnogaeth iddynt. Darganfu'r Eisteddfod dri chyfansoddwr caneuon yn y modd hwn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf—sef Bradwen Jones, W. Albert Williams a Haydn Morris. Organydd yng Nghaergybi yw Bradwen Jones. Y mae'n ŵyr i Eos Bradwen, cerddor enwog flynyddoedd yn ôl, a chyfansoddwr y gân boblogaidd, "Bugail Eryri." Ni chyfansoddodd Bradwen Jones yn helaeth iawn, ac nid ysgrifennodd ond ychydig o ganeuon; ond y maent yn ganeuon da odiaeth, ac y mae'n resyn nad ysgrifenna ragor. Ei ganeuon mwyaf adnabyddus yw "Cân, utgorn, Cân" a "Mab yr Ystorm."

Un o Sir Fôn ydyw W. Albert Williams yntau, ond y mae'n byw yn Lerpwl ers rhai blynyddoedd bellach, lle y mae'n organydd yn un o'r capelau Cymraeg. Er nad yw'n gerddor proffesedi, y mae'n feirniad galluog, fel y gwelir wrth ei amryw erthyglau ar gerddoriaeth yn Y Cymro a Y Llenor.

Bu Haydn Morris hefyd yn aml iawn ymysg y buddugwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd. Ar wahân i'w ganeuon, cyfansoddodd lawer o weithiau ar gyfer côr a cherddorfa. Ymysg ei gyfansoddiadau i gerddorfa, ceir "Pro Patria" a enillodd wobr arbennig o £50 yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939.

Dylid crybwyll hefyd enwau David de Lloyd, J. Morgan Lloyd ac E. T. Davies. Bu de Lloyd, fel Vaughan Thomas, yn gwneuthur arbrofion gyda'r mesurau caeth Cymraeg a gwnaeth hyn yn llwyddiannus yn ei "Englynion ar Gân." Y mae'r rhain yn gyfansoddiadau rhagorol, a haeddant fwy o sylw. Ysgrifennodd E. T. Davies rai caneuon gwych, a gresyn na wnâi fwy, oherwydd y mae iddo ddawn arbennig at y gwaith. Eto i gyd yr ydym yn ddiolchgar iddo am "Ynys y Plant" (a ysgrifennwyd flynyddoedd yn ôl, ac sydd yn yr hen ddull), "Cân y Bugail" a "Baled Rhyfel Glyndwr, 1400." Daeth John Morgan Lloyd yn Athro Cerddoriaeth, ar ôl David Evans, yng Ngholeg Caerdydd yn 1939. Nid ysgrifennodd lawer, ond fe geir ganddo ychydig o ddarnau byr. Y mae ei gân "Alwen Hoff" a'i fadrigal "Wele gawell baban glân" yn enghreifftiau ardderchog o'i arddull.

Y mae'n gam mawr o "Llwybr yr Wyddfa" a "Bedd Llywelyn" i ganeuon cyfansoddwyr Cymreig heddiw. Daeth