Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

idiomau newydd i iaith cerddoriaeth, ac fe ymddangosodd tueddiadau modern a newid cwrs y gelfyddyd. Felly cawn ddyrnaid o gyfansoddwyr ieuainc yng Nghymru sy'n ysgrifennu caneuon yn y dull diweddar, dull a ymddengys yn od i glustiau sy'n gynefin â chaneuon fel "Y Golomen Wen" a "Baner ein Gwlad." Ond arwydd iach yw'r caneuon newydd hyn, a dynodant y deffro sy'n digwydd yng ngherddoriaeth Cymru heddiw. Y mae'n sicr mai iaith anghynefin heddiw fydd iaith gynefin yfory. Y pwysicaf o'r cyfansoddwyr hyn yw Arwel Hughes, Dilys Roberts, Mervyn Roberts, Mansel Thomas a Grace Williams. Yn anffodus ni chyhoeddwyd ond ychydig o'u caneuon hyd yn hyn, ond y maent yn sicr o ennill tir fel y daw cantorion a chynulleidfaoedd Cymru it werthfawrogi eu prydferthwch.

PENNOD VII

DECHRAU CANRIF

NEWIDIODD rhagolygon cerddorol Cymru yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Hyd yn hyn, ni roesai'n cyfansoddwyr ond ychydig o'u hamser i ddatblygu cerddoriaeth i gerddorfa, ond yn nechrau'r ganrif hon dechreuasant feddwl am y gerddorfa fel modd mynegiant hollol annibynnol ar y lleisiau, a hefyd i'w defnyddio'n amlach fel ategiad at y gelfyddyd gorawl. Fe briodolir y cyfnewidiad hwn yn bennaf i'r hyfforddi gwell a gâi cyfansoddwyr, gan roddi iddynt well cymwysterau technegol nag a gafodd cyfansoddwyr y ganrif flaenorol. Hoff ymffrost y Dr. Joseph Parry ydoedd mai ef oedd yr unig ddoethor mewn cerddoriaeth yng Nghymru. Yn fuan wedi ei farw, enillwyd y radd hon gan dwr o gerddorion, y rhan fwyaf ohonynt yn ddisgyblion i Parry. Yr oedd y cerddorion hyn, D. C. Williams, D. Vaughan Thomas, David Evans, Caradog Roberts a T. Hopkin Evans wedi eu hyfforddi'n dda, ac yn flaengar eu hagwedd. At hyn yr oedd ganddynt gydymdeimlad llawn â delfrydau Cymreig, ac felly yr oeddynt yn ddynion cymwys i roddi arweiniad i gerddoriaeth Cymru am flynyddoedd. Heblaw'r rhai a enwyd uchod, yr oedd dau