Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

Incidental Music" a gyfansoddodd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926. Ond, fe ddengys y rhain, gwaetha'r modd, ei wendidau fel ysgrifennwr i gerddorfa. Y maent yn esbonio, i raddau, paham na Iwyddodd i ysgrifennu gwaith o'r radd flaenaf i gerddorfa'n unig. Fe welir yr un gwendidau, ond i raddau llai, yn ei gyfansoddiadau i gor a cherddorfa. Yn Eisteddfod Abertawe yn 1907 perfformiwyd "Llyn y Fan," cantata i unawdwyr, côr a cherddorfa, a'r cyfansoddwr yn arwain. Ysgrifennwyd y gwaith yn dda, ond ni wnaeth argraff parhaol oherwydd y gwahanol fathau o arddull a oedd ynddo. Y mae'r "Ode to St. Cecilia's Day" yn gadarnach a mwy gafaelgar, ond wrth fyned yn gadarn, aeth hefyd braidd yn drwm a dilewyrch. Er bod iddo ei funudau o ysbrydiaeth, rhaid cyfaddef mai gwaith anwastad ydyw. Perfformiwyd ef yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909. Y mae'n debyg mai'r gerddoriaeth a ysgrifennodd ar eiriau Gray, "The Bard" yw ei waith mwyaf uchelgeisiol, ond hyd yn oed yma, teimlir nad yw'r cyfansoddwr wedi cael ei draed odano, a'i fod yn tueddu i ymbalfalu tuag at y ffurf ddelfrydol i'w fynegi ei hun. Perfformiwyd "The Bard" yng Ngŵyl Caerdydd yn 1910. Cafwyd perfformiad arall yn y Queen's Hall, Llundain, a hefyd gan Undeb Corawl Lerpwl o dan arweiniad Harry Evans.

Cyfansoddwr toreithiog oedd Vaughan Thomas, ac y mae swm ei waith, yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi a heb ei gyhoeddi, yn drawiadol. Ar wahân i'r darnau y soniwyd amdanynt eisoes, ysgrifennodd ranganau i gorau cymysg a chorau meib- ion, anthemau, tonau, darnau i'r piano, ac amryw ddarnau i ffidil a phiano. Ysgrifennodd hefyd bedwarawd a phumawd llinynnol. Gwaith gwych yw'r olaf, ac yn ôl rhai beirniaid, dyma'r darn gorau o gerddoriaeth ystafell a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr Cymreig. Yn Cape Town, yn 1930 y perfformiwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf, a'i ddarlledu o Gymru yn 1936. Fe ddichon y gwerthfawrogir gweithiau Vaughan Thomas yn well yn y dyfodol. Nid celfyddyd boblogaidd yw'r eiddo ef, ond i'r rhai a werthfawroga gerddoriaeth sy'n cyfuno nodweddion dychmygol a theimladol y bardd a'r cerddor, daw ei waith i apelio fwy-fwy.

Ganed DAVID EVANS yn Resolfen yn 1874. Bu'n ddisgybl i Joseph Parry, ac yn olynydd iddo yn y swydd o ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd.