Ysgrifennodd amryw gyfansoddiadau i offerynnau, gan gynnwys pedwarawd llinynnol a enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1907, sonata i biano, ac ychydig o ddarnau llai i'r offeryn hwnnw. Dyma'i gyfansoddiadau pwysicaf i gerddorfa: "A Brythonic Overture," "A Cymric Suite" a "Three Preludes on Welsh Hymn-tunes"—a'r tonau a ddewisodd yw "Moab," "Abergele" a "Tanymarian." Gwnaeth Hopkin Evans waith da fel beirniad ac arweinydd; hefyd fe gyfansoddodd nifer o ganeuon a rhanganau, a daeth llawer ohonynt yn boblogaidd. Ei weithiau mwyaf uchelgeisiol yw "Kynon" a "Salm i'r Ddaear." Ysgrifennwyd y ddau ar gyfer unawdau, côr a cherddorfa. Dengys y rhain ba mor gynefin oedd y cyfansoddwr â'r gerddoriaeth fodern orau, a dengys hefyd y dylanwad a gafodd rhai o gyfansoddwyr heddiw ar ei ardull.
Bu farw yn 1940, a chladdwyd ef yn Resolfen.
Ganed HARRY EVANS ym Merthyr ar ddydd Calanmai, 1873. Fel llawer o gyfansoddwyr Cymru yn ei oes, dechreuodd ymwneud â cherddoriaeth drwy gyfrwng y tonic sol-ffa. Penodwyd ef, yn ddeg oed, yn organydd Capel Gwernllwyn, Dowlais, ond yn lle talu cyflog, cytunodd yr eglwys i dalu am wersi cerddoriaeth iddo. Bu'n petruso yn y dechrau rhwng mynd yn athro ysgol a mynd yn gerddor, ac fe fwriodd ei brentisiaeth yn Ysgol y Bechgyn, Abermorlais. Ond bu'r dynfa at gerddoriaeth yn rhy gref, ac yn fuan iawn rhoes y gorau i fod yn athro ysgol, a throi'n gyfangwbl at gerddoriaeth. Gwelwyd yn fuan fod ganddo athrylith at arwain côr. Enillodd ei gôr meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900, a'i gôr cymysg o Ddowlais yn Eisteddfod Llanelli yn 1903.
Ar ôl hyn, ni chystadleuodd mewn eisteddfod, ac yn ddiweddarach, penodwyd ef yn arweinydd Undeb Corawl Cymreig Lerpwl. Eithr ni thorrodd ei gysylltiad â Chymru, ond yn hytrach cymryd diddordeb mawr yng ngherddoriaeth ei wlad, lle yr oedd yn ffigur poblogaidd fel beirniad ac arweinydd. Yng ngeiriau Syr Granville Bantock, "Yn ddiamheuol, yr oedd yn un o'r arweinyddion corau mwyaf yn y wlad, ac yn sicr yn un o'r beirniaid mwyaf caredig a phoblogaidd."
Bu am flynyddoedd yn pleidio dros sefydlu Coleg Cerddoriaeth yng Nghymru, ond ni roddwyd y cynllun mewn grym. Ymhen amser, rhoddwyd gwell safle i adrannau cerdd yng